Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Hannah Quinlan and Rosie Hastings: Yn Fy ‘Stafell

14 Tachwedd 2020 - 20 Mehefin 2021

Arddangosfa

  • Hannah Quinlan and Rosie Hastings, In my Room, 2020. Film still. Courtesy the artists, Arcadia Missa and Galerie Isabella Bortolozzi.

  • Hannah Quinlan and Rosie Hastings, In My Room, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

  • Hannah Quinlan and Rosie Hastings, In My Room, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

  • Hannah Quinlan and Rosie Hastings, In My Room, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

  • Hannah Quinlan and Rosie Hastings, In My Room, installation view at MOSTYN, November 2020. Courtesy the artists and Galerie Isabella Bortolozzi. Photo: Mark Blower.

Fel rhan o’u harddangosfa unigol Yn Fy ‘Stafell, mae Hannah Quinlan a Rosie Hastings wedi creu rhestr chwarae o ganeuon o’u gwaith Cyfeirlyfr Bar Hoyw’r DU, 2016, i’w gwrando ar Spotify.

Mae’r arddangosfa sefydliadol unigol gyntaf Hannah Quinlan a Rosie Hastings Yn Fy ‘Stafell yn dod a ffilm, paentio ffresgo ac yn waith ar bapur at ei gilydd. Fel corff newydd o waith, mae yn Fy ‘Stafell yn datblygu ymchwiliad yr artistiaid i wleidyddiaeth, hanesion ac estheteg llefydd a diwylliant queer. Mae’r ymchwiliad yn adeiladu ar eu teithiau ledled y DU wrth wneud yr ‘UK Gay Bar Directory (UKGBD)’ 2016, archif delwedd symudol o fariau hoyw, gan ymateb i gau systematig lleoedd cymdeithasol pwrpasol LGBTQ+. I Quinlan a Hastings, daeth yn amlwg trwy’r ymchwil hon fod yr olygfa hoyw yn darparu’n bennaf ar gyfer dynion hoyw gwyn. Fe wnaeth hyn eu hysgogi i ystyried sut mae’r olygfa hon yn cryfhau’r mynediad gwrywaidd hanesyddol i gyfalaf a phŵer yn y dirwedd drefol.

Wrth eisiau archwilio’r cwestiwn o fynediad ymhellach yn eu ffilm newydd, aeth Quinlan a Hastings i sgowtio lleoliadau ym mhentref hoyw Birmingham, dim ond i ddarganfod bod llawer o’r bariau a’r clybiau wedi cau yn ddiweddar neu yn mynd i gau yn yr ychydig fisoedd nesaf, oherwydd yr ardal yn cael ei hailddatblygu’n gyflym fel llety preswyl moethus gan ragweld y rheilffordd gyflym newydd. Rhoddodd hyn frys newydd i’r ffilm – a phrosiect archifol ehangach parhaus Quinlan and Hastings- i ddal y llefydd LGBTQ+ hanesyddol hyn ar adeg o newid anferth, a thrwy hynny dynnu sylw at effaith boneddigeiddio ar isadeileddau diwylliannol dinas a’i chymunedau hoyw.

Ar y cyd ag ysgogiad archifol y ffilm, mae Quinlan a Hastings wedi defnyddio dawns a’r corff perfformio fel ffordd i feddwl am ac ymchwilio i’r ffyrdd y mae rhyngweithio a phwer dynion yn cael eu cydgrynhoi, yn enwedig mewn perthynas â diwylliant rhyw gwrywaidd. Mae’r ffilm wedi’i lleoli mewn tri gofodau gwahanol: Bar Jester a’r clwb Core yn Birmingham a Shoeburyness Fort yn Southend-on-Sea. Wedi cau yn ddiweddar, roedd Bar Jester wedi bod ar agor ers y 1970au, gan drawsnewid o leoliad dynion yn unig yn bennaf yn yr 1980au i gynllun dynion-i-fyny’r-grisiau, merched-i-lawr-y-grisiau, ac yna i leoliad cymysg. Mae clwb Core yn lleoliad i ddynion yn unig, aelodau yn unig sy’n cynnal nosweithiau clwb misol: bydd yn cau yn ystod y misoedd nesaf. Defnyddiwyd y trydydd lleoliad, Shoeburyness Fort, gan yr British School of Gunnery fel canolfan hyfforddi ac arbrofi i’r fyddin ers 1859, yna ei ail-arfogi yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel rhan o’r amddiffynfa arfordirol, ond bellach yn segur. Ffurf arall o amgylchedd dynion-yn-unig ar yr adeg yna, mae’r Gaer fawreddog, ond anghyfannedd, hefo i Aber Afon Tafwys un ochr, a datblygiad tai a adeiladwyd yn ddiweddar ar yr ochr arall.

O fewn y tri lleoliad hyn, mae’r camera’n canolbwyntio ar drefn gaeth y fformat dawnsio llinell sy’n cael ei berfformio gan y dawnswyr heb unrhyw gysylltiad emosiynol â’r gerddoriaeth na chyfathrebiad â’i gilydd. Mewn cyferbyniad, mae dawns gysgod â choreograffi arbennig (deilliad o’r ddawns linell) yn caniatáu adlewyrchu llawer mwy gwefredig o gyrff y dawnswyr, y mae ei ryngweithio yn dod yn hynod agos ac ar adegau, bron yn dreisgar. Mae’r ffilm yn awgrymu atgynhyrchiad isymwybod o bŵer mewn lle cyhoeddus trwy godau, ystumiau ac ymddygiad. Mae rhwbiadau wal o’r gerfwedd carreg a oedd o flaen y Bar Jester yn ymddangos fel motiff ailadroddus trwy gydol y ffilm. Cyflwynir y gweithiau unigryw yma hefyd ar bapur yn yr arddangosfa. Yn gofnod ysbrydol o leoliad eiconig LGBTQ+ ar adeg ei basio, mae’r Jester yn ymgymryd â bywyd ei hun fel cymeriad gwerin a llywodraethol. Mae tri llun graffit llai, a ddangosir yn y cabinet mynediad, yn darlunio tu allan lleoliadau hoyw yn Birmingham, y mae pob un ohonynt wedi cau eisoes neu y bwriedir eu cau cyn 2021, y mae grwpiau bach o ferched yn ymgynnull o’u blaenau.

Mae Quinlan a Hastings hefyd wedi creu paentiad ffresgo newydd, gan ddod â’r dechneg hynafol, arbenigol hon i ymarfer cyfoes trwy ymgysylltu â natur gyhoeddus a phensaernïol y cyfrwng. Yn darlunio stryd fawr llawn cerddwyr, mae’r ddelweddaeth yn ystyried y rôl y mae pensaernïaeth drefol yn ei chwarae wrth ffurfio hunaniaethau, ac yn adlewyrchu ar y ffyrdd y mae symudiad yn cael ei lywio gan ddiwylliant o oruchafiaeth dynion. Mewn cyfnod o galedi eithafol a pharhaus, gwyliadwriaeth uwch a phreifateiddio o lefydd cyhoeddus, mae’r stryd yn barth gwleidyddol sy’n cael ei drafod yn gynyddol.

Curadur: Juliette Desorgues, Curadur y Celfyddydau Gweledol, MOSTYN

Wedi’i gomisiynu gan Focal Point Gallery, mae In My Room wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â MOSTYN a Humber Street Gallery, Hull.

Artist profiles and statements

Hannah Quinlan and Rosie Hastings

Mae Hannah Quinlan a Rosie Hastings (ganwyd yn 1991, Newcastle a Llundain) yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Maent wedi cymryd rhan mewn sioeau grŵp gan gynnwys y rhai diweddar ‘Cruising Pavilion: Architecture, Gay Sex and Cruising Culture’, ArkDes, Stockholm; ‘Kiss My Genders’, Hayward Gallery, Llundain; ‘Breathless’, Ca Pesaro, Fenis; a ‘Queer Spaces: London, 1980s – Today’, Whitechapel Gallery, Llundain (i gyd 2019). Ymhlith y cyflwyniadau unigol mae ‘Something for The Boys’, Two Queens, Leicester and ‘Gaby’, Queer Thoughts, NYC (y ddwy yn 2018). Cynhaliwyd perfformiadau diweddar ar gyfer Image Behaviour, ICA, Llundain; Art Night, Llundain; Move Festival, Pompidou Centre, Paris; a Kiss My Gender Live, Southbank Centre, Llundain (i gyd 2019).

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr