Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Richard Wathen: Llygaid Newydd Bob Tro

14 Tachwedd 2020 - 20 Mehefin 2021

Arddangosfa

  • Richard Wathen, New Eyes Every Time, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

  • Richard Wathen, Sleeping after P.G., 2019. Oil on linen over aluminium panel. Courtesy the artist.

  • Richard Wathen, New Eyes Every Time, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

  • Richard Wathen, New Eyes Every Time, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

  • Richard Wathen, New Eyes Every Time, installation view at MOSTYN, November 2020. Photo: Mark Blower.

Mae arddangosfa unigol Richard Wathen, enillydd ‘Gwobr Arddangosfa’ MOSTYN Agored 21, yn cynnwys cyfres newydd o baentiadau. Mae gwaith Wathen wedi’i wreiddio yng nghanon paentiadau hanesyddol, ac mae’n canobwyntio’n bennaf ar bortreadau, gan ddarlunio cymeriadau sy’n myfyrio neu’n betrusgar; yn gwrando ar waliau, esgus cysgu, yn torheulo dan olau’r lleuad, neu mewn cyflwr arall o ansicrwydd. Mae gweithiau Wathen yn dangos yr amrywiaeth cynhyrfus a chymhleth o emosiynau dynol, o bryder a thristwch i anobaith, a achosir gan bwysau economaidd-gymdeithasol bywyd heddiw. Mae’r dwysedd a grëir drwy ddefnyddio manylion bach yn bwerus ac yn emosiynol i gyfleu ei syniadau. Mae ei waith yn herio genre paentiadau ffigurol drwy chwarae beiddgar rhwng y ffigurol a’r haniaethol, rhwng dwysedd solet yr arwyneb pŵl a breuder y ffigurau a gynrychiolir.
Mae’r pynciau a ddarlunnir yn aml yn deillio o gyfuniad o ddelwedd, meddwl, sain a chof, sydd dros amser yn dod at ei gilydd mewn ffordd reddfol. Yn dilyn y cysyniad ciwbist o safbwyntiau lluosog mewn amser, mae pob ffigur yn parhau mewn cyflwr o newid cyson, y tu hwnt i’r presennol. Mae eu hoedran, eu rhyw a’u hystumiau’n cael eu gadael yn amwys, yn agored i sefyllfa ddi-droi’n-ôl o betruso ac ansicrwydd.  Drwy wrthod cael eu gosod mewn amser a lle, mae gweithiau Wathen yn cynnig ymchwiliad i’r cyflwr dynol mewn oes lle ystyrir bod delwedd yn gallu cymryd lle bodau dynol â chydwybod.
Curadur:  Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN
Mae Richard Wathen yn siarad am ei arddangosfa newydd ‘Llygaid Newydd Bob Tro’ ym MOSTYN

Artist profiles and statements

Richard Wathen

Cafodd Richard Wathen ei eni yn Llundain yn 1971. Mae’n byw ac yn gweithio yn Suffolk. Graddiodd o Ysgol Gelf Caer-wynt a derbyniodd MA mewn Celf Gain o Ysgol Gelf Chelsea. Enillodd ‘Gwobr y Gynulleidfa’ MOSTYN Agored 21 ‘yn 2019. Mae ei arddangosfeydd unigol wedi’u cyflwyno yn Annalisa Stevens, Llundain, Max Wigram Gallery, Llundain, L&M Arts, Efrog Newydd a Salon 94, Efrog Newydd. Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Turps Banana Gallery, Llundain, Hauser & Wirth, Llundain, Blum & Poe, Los Angeles, Canolfan Celf Gyfoes Hudson Valley, Efrog Newydd, Maison Particulière, Brwsel, The Olbricht Collection, ME Collectors Room, Berlin, Kunsthalle Krems, Amgueddfa Celf Gyfoes Los Angeles, La Maison Rouge, Paris, John Hansard Gallery, Southampton a CAPC Musee d’Art Contemporain de Bordeaux. Mae ei gasgliadau cyheddus yn cynnwys Amgueddfa Celf Gyfoes Los Angeles a The Olbricht Collection, Berlin.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr