Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Elisabetta Benassi: EMPIRE

13 Gorffennaf 2019 - 27 Hydref 2019

Arddangosfa

  • Elisabetta Benassi, EMPIRE, 2018/2019. Photograph Ollie Hammick.

  • Elisabetta Benassi, EMPIRE, 2019 at MOSTYN, Wales UK. Photograph Lin Cummins

  • Elisabetta Benassi, EMPIRE, 2019 at MOSTYN, Wales UK. Photograph Lin Cummins

Mae EMPIRE gan Elisabetta Benassi yn osodiad o friciau teracota wedi’u gwneud â llaw yn y DU. Cawsant eu gwneud o glai sy’n amrywio o goch i ddu ei liw.  Mae’r briciau wedi’u ffurfweddu fel gosodiadau penodol i safle – mae maint, siâp ac edrychiad pob un wedi’u pennu gan ei pherthynas â’r lleoliad; strwythurau hunangynhaliol wedi’u hadeiladu heb briddgalch mewn cydffurfiad sy’n gynhenid sefydlog. Pwnc y gwaith ydy craidd y berthynas rhwng mannau hynafol, treftadaeth archaeolegol a’r amgueddfa gyfoes.

Mae EMPIRE yn trawsnewid yr uned adeiladu sylfaenol, y fricsen Rufeinig, ag ystyr symbolaidd ac esthetig newydd.

Mae’r gwaith yn cael ei arddangos yn y DU am y tro cyntaf yn MOSTYN ac yn Sefydliad Diwylliant yr Eidal, cyn teithio i amrywiol leoliadau yn Rhufain.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr