Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Derek Boshier: Dim ond pan fo’r môr ar drai… Gwaith ac effemera dethol, 1976 – 2018

16 Mawrth 2019 - 30 Mehefin 2019

Arddangosfa

  • Derek Boshier, Guadalupe Mountains, 2017. Acrylic on canvas. Copyright the artist. Courtesy of Gazelli Art House.

  • Derek Boshier_It's Only When the Tide Goes Out.... Installation detail at MOSTYN, Wales UK, 2019. Photo by Jamie Woodley.

  • Derek Boshier_It's Only When the Tide Goes Out.... Installation detail at MOSTYN, Wales UK, 2019. Photo by Jamie Woodley.

  • Derek Boshier_It's Only When the Tide Goes Out.... Installation detail at MOSTYN, Wales UK, 2019. Photo by Jamie Woodley.

  • Derek Boshier_It's Only When the Tide Goes Out.... Installation detail at MOSTYN, Wales UK, 2019. Photo by Jamie Woodley.

Mae’n bleser gennym ni gyflwyno gwaith gan Derek Boshier, yr artist pop o Loegr a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf fel rhan o’r symudiad Celfyddyd Bop ym Mhrydain yn gynnar yn y 1960au.
Mae Boshier hefyd yn adnabyddus am ei waith gydag eiconau diwylliannol fel The Clash a David Bowie.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth o ddarluniau, paentiadau, printiau a fideos, ynghyd â gwaith ac effemera ffotograffig a cherfluniol o gasgliad personol yr artist. Drwy gyfrwng y casgliad eang hwn o waith ac arteffactau, mae’r arddangosfa’n datgelu sut mae creadigrwydd Boshier yn ymestyn y tu hwnt i ofod yr oriel neu’r stiwdio. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith o’r pedwar degawd diwethaf yng ngyrfa’r artist ac mae portread cwbl newydd yn cael ei gyflwyno yma, sef portread o artist sydd wedi disgrifio ei waith ei hun fel “celf sy’n wleidyddol, nid celf wleidyddol”.

Hefyd, mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith a ffotograffau archifol yr oedd Boshier wedi’u gwneud yn y 1970au, ac yntau’n byw yng Nghymru, ym mhentref Llangadfan.

Mae’r ddwy arddangosfa’n rhan o gyfres barhaus MOSTYN, ‘Mewn Sgwrs’. Mae’r gyfres hon yn dod â dwy arddangosfa unigol at ei gilydd ac yn cyflwyno’r elfennau sy’n gallu digwydd rhwng artistiaid, fel y sgwrsio, y cydweithio neu’r tebygrwydd wrth archwilio themâu. Caiff yr arddangosfa ei churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN, a’r artist S Mark Gubb, a fydd yn dangos ei arddangosfa yntau, Y Farn Olaf, ar yr un pryd.

I gyd-fynd â’r arddangosfa hon, ac arddangosfa S Mark Gubb, sy’n cael ei dangos ‘Mewn Sgwrs’, bydd catalog cyfun yn cael ei gynhyrchu. Bydd hwn yn cael ei ariannu gan Brifysgol Worcester a bydd yn cynnwys traethawd newydd gan Jonathan Griffin.
Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosib diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a chymorth Gazelli Art House, Llundain.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr