Arddangosfa
Mae’n bleser cael cyflwyno arddangosfa unigol gyntaf mewn sefydliad yn y DU o waith yr artist a aned yn y Swistir ac sy’n gweithio yn Zurich, Louisa Gagliardi.
Mae gwaith Gagliardi’n datgymalu adeiladwaith delwedd, a’n cymdeithas ni, mewn oes ddigidol ac mae’n ymddangos fel pe bai’n astudio codau a hanes paentio. Mae ei gwaith yn codi cwestiynau am syniadau cysylltiedig â ffigurau a thir, gwastadrwydd a dyfnder. Gan weithio’n ddigidol i ddechrau – gan ddefnyddio adnodd darlunio digidol llawrydd – mae’n ymddangos bod ei darnau’n cael eu trosi’n baentiadau yn nes ymlaen. Er ei bod yn ymddangos bod ôl brwsh i’w weld, mae ei gwaith yn cael ei argraffu’n ddigidol, gan ddefnyddio inc argraffu yn lle paent, PVC yn lle cynfas a gel yn lle lacer traddodiadol – cyfryngau sydd efallai’n fyd cydnaws â’r diwydiant hysbysebu na hanes grymus paentio. Fel cyfanwaith, mae ymddangosiad ei darnau’n cael eu dal rhywle rhwng dyn a pheiriant, gan adlewyrchu ansawdd dryslyd, swrrealaidd llawer iawn o’r delweddau a’r bydoedd y mae hi’n eu portreadu.
Gan gyflwyno gwaith newydd a phresennol, mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at y ffactorau sy’n diffinio crefft Gagliardi, sydd hefyd wedi troi at leoliad yr oriel am ysbrydoliaeth. Mewn ffyrdd amrywiol mae’r gwaith yn astudio’r amgylchedd trefol a chefn gwlad, a’r gwrthdaro sy’n gallu codi rhwng y ddau. Mae anfodlonrwydd a methu â bod yn fodlon yn y presennol yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro, sy’n cael eu crynhoi mewn darluniadau trefol a naturiol.
Mae’r gwaith yn Under the Weather yn delio’n rhannol â lleoliad MOSTYN ei hun, ond mae hefyd yn cyfeirio at fywgraffiad a magwraeth Gagliardi. Roedd amgylchedd natur yn rhan bwysig o flynyddoedd cynnar Gagliardi, ac yn y ddinas y gwywodd diniweidrwydd plentyndod yn raddol – fel y mae’r ffigurau yn ei gwaith yn eu symboleiddio. Mae’r ffigurau’n ymddangos yn oddefol ac yn ymostyngol i elfennau ac i fygythiadau, ac oherwydd eu bod yn ymddangos fel petaent yn hiraethu am y gorffennol, yn bodoli mewn sefyllfaoedd nad ydynt wedi’u datrys.
Mae’r arddangosfa hon yn cael eu churadu gan Adam Carr, (Curadur Rhaglen Celfyddydau Gweledol, MOSTYN) ac yn cael ei chyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa newydd gan Josephine Meckseper sy’n cael ei churadu gan Alfredo Cramerotti (Cyfarwyddwr, MOSTYN) fel rhan o gyfres barhaus MOSTYN, ‘Cyfres Sgwrs’. Mae ‘Cyfres Sgwrs’ yn dod â dwy arddangosfa unigol at ei gilydd ac yn cyflwyno’r ddeialog, y cydweithio neu’r tebygrwydd wrth archwilio themâu sy’n gallu digwydd rhwng artistiaid.
Mae’r arddangosfa hon yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau’r Swistir Pro Helvetia a chymorth Rodolphe Janssen, Brwsel.