Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Josephine Meckseper

17 Tachwedd 2018 - 3 Mawrth 2019

Arddangosfa

  • Josephine Meckseper, The Story of Mankind, 2014. Mixed media in stainless steel and glass vitrine with fluorescent lights and acrylic sheeting. ©Josephine Meckseper. Courtesy Timothy Taylor, London/New York.

  • Josephine Meckseper, Installation view at MOSTYN, 2019

  • Josephine Meckseper, Installation view at MOSTYN, 2019

  • Josephine Meckseper, Installation view at MOSTYN, 2019

  • Josephine Meckseper, Installation view at MOSTYN, 2019

  • Josephine Meckseper, Installation view at MOSTYN, 2019

Mae’n bleser gan MOSTYN gyflwyno arddangosfa unigol gyntaf Josephine Meckseper yng Nghymru. Ganed yr artist yn yr Almaen ac mae hi bellach yn gweithio yn Efrog Newydd, a bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys ei gwaith presennol a gwaith newydd dan gomisiwn.
Mae Meckseper yn un o artistiaid benywaidd mwyaf blaenllaw ei chenhedlaeth sy’n gweithio heddiw. Mae hi’n cyfuno iaith esthetig moderniaeth ag iaith ffurfiol arddangosiadau masnachol, gan eu huno â’i delweddau ei hun a ffilm o fudiadau protestio gwleidyddol a dylanwadau sylfaenol hanesyddol.
Mae hi’n rhoi cipolwg ar anymwybod torfol ein hoes drwy gyfosod arwyddion cyffredin fel hysbysebion a gwrthrychau o ddydd i ddydd wrth ochr ei cherfluniau a’i phaentiadau abstract.
Mae cwpwrdd gwydr wrth galon yr arddangosfa, yn ogystal â set o gerfluniau gwydr, dalennau acrylig a dur gwrthstaen, ochr yn ochr â gwaith ffilm a dau ddimensiwn. Mae’r rhain oll i’w gweld yn Oriel 4 ac Oriel 5 ac yn y Stiwdio.
Alfredo Cramerotti (Cyfarwyddwr, MOSTYN) sy’n curadu’r arddangosfa hon, ac mae’n cael ei chyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa newydd gan Louisa Gagliardi, sy’n cael ei churadu gan Adam Carr (Curadur Rhaglen Celfyddydau Gweledol, MOSTYN) fel rhan o gyfres barhaus MOSTYN ‘Cyfres Sgwrs’. Mae ‘Cyfres Sgwrs’ yn dod â dwy arddangosfa unigol at ei gilydd ac yn cyflwyno’r ddeialog, y cydweithio neu’r tebygrwydd wrth archwilio themâu sy’n gallu digwydd rhwng artistiaid.

Mae’r arddangosfa hon yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a chymorth Oriel Timothy Taylor, Llundain.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr