Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Mike Perry: Tir/Môr

3 Mawrth 2018 - 1 Gorffennaf 2018

Arddangosfa

  • Shoe 22, Playa Santa Maria, Havana, Cuba 2014. Fencing, Treadog Bay, Llŷn Peninsula, Wales 2016.

  • Mike Perry, Land / Sea (installation detail). Photograph by Dewi Lloyd

  • Mike Perry, Land / Sea (installation detail). Photograph by Dewi Lloyd

  • Mike Perry, Land / Sea (installation detail). Photograph by Dewi Lloyd.

Mae gwaith Mike Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol pwysig, yn arbennig y tensiwn rhwng ymyraethau a gweithgarwch dynol yn yr amgylchedd naturiol, a natur fregus ecosystemau’r blaned.
Mae’r arddangosfa fawr newydd hon yn dwyn ynghyd ddarnau diweddar o waith sy’n ymdrin â’r modd y mae bioamrywiaeth naturiol tirluniau ac amgylcheddau morol yn cael ei thanseilio gan esgeulustra pobl, camreoli amaethyddol, a’r awydd i wneud elw byrdymor ar draul cynaliadwyedd hirdymor.
Mae delweddau Perry, sy’n cyfuno estheteg gysyniadol â phryder difrifol am yr amgylchedd morol, yn taflu goleuni gwahanol ar iechyd y morluniau y gellid eu gweld mewn cylchgronau i dwristiaid. Mae Môr Plastig yn ddarn cyfredol o waith sy’n dosbarthu gwrthrychau sy’n cael eu golchi i’r lan yn grwpiau; poteli, esgidiau, gridiau, ac ati. Drwy ddefnyddio camera cydraniad uchel i ddal manylder yr arwynebau, mae’r artist yn ein galluogi i ‘ddarllen’ y marciau a’r creithiau sydd wedi’u hysgythru yn y gwrthrychau gan y môr dros fisoedd ac, weithiau, blynyddoedd.
Mae’r artist yn herio ac yn ennyn chwilfrydedd y gwyliwr drwy gyflwyno gwrthrychau sy’n llygru mewn ffordd mor ddeniadol. Yng ngeiriau Perry, “yn ogystal ag ystyried y darnau hyn yn symbolau o orddefnydd a diystyrwch o’r amgylchedd, rwyf hefyd yn eu hystyried yn dystiolaeth o harddwch a grym natur i gerfio ein byd”.
Cafodd Tir / Môr ei chynhyrchu’n wreiddiol gan Ffotogallery, Caerdydd, a’i churadu gan David Drake, Ffotogallery, a Ben Borthwick, Canolfan Celfyddydau Plymouth. Mae’r arddangosfa yn MOSTYN wedi’i datblygu mewn trafodaeth ag Adam Carr, Curadur y Rhaglen Celfyddydau Gweledol, ac Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr. Mae’r cyhoeddiad cysylltiedig yn cynnwys cyfraniadau gan yr awduron George Monbiot a Skye Sherwin.
Mwy O Wybodaeth
Gwefan Mike Perry
Mike Perry – Ffotogallery, Caerdydd

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr