Gweithdy plant

Y tymor, yma fydd y cyfranogwyr yn edrych ar themâu o golau, cerfluniau a’r synhwyrau trwy archwilio deunyddiau a ffyrdd o creu wedi cael eu ysbrydoli gan arddangosfa Cerith Wyn Evans.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r cerfluniau golau yn yr arddangosfa, bydd y cyfranogwyr yn creu gweithiau celf hongian gan ganolbwyntio ar greu adlewyrchiadau a chysgodion diddorol trwy archwilio deunyddiau adlewyrchol.
Wedi’i anelu tuag at gyfranogwyr rhwng yr oedran o 6-11
Gwybodaeth Diogelwch COVID-19 ar gyfer Cyfranogwyr Gweithdai, Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr, Sefydliadau Addysgol a Grwpiau Addysgol ar gyfer Ymweliadau ag Oriel MOSTYN.
Dyluniwyd y protocolau a’r gweithdrefnau arfer da i sicrhau diogelwch a lles unrhyw grwpiau sy’n ymweld.
- Os ydych chi’n dangos unrhyw symptomau o COVID-19 peidiwch â mynychu’r gweithdy. Cewch eich ad-dalu os na allwch ddod oherwydd symptomau.
- Fydd deunyddiau glan yn cael eu defnyddio ym mhob gweithdy i atal traws-halogiad.
- Cyn ac ar ôl pob gweithdy bydd y Stiwdio Dysgu yn cael ei glanhau’n drylwyr.
- Disgwylir i bob ymwelydd defnyddio glanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael, gan osgoi ysgwyd llaw a chyswllt corfforol, a.y.b.
- Nid yw orchuddion hwyneb yn ofynnol i ymwelwyr, ond rydym yn cynghori bod pobl dal i’w wisgo yn enwedig o fewn pellter o 2-fetr oddi wrth ei gilydd.
Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.