Siarad
Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim gyda’r arbenigwr awyr agored a’r addysgwr Jim Langley.
Ailddarganfyddwch harddwch yr hyn sydd ar garreg eich drws. Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar bŵer adferol byd natur a pha elfennau bywyd gwyllt ac awyr agored sydd i’w darganfod ar y Gogarth a’i golygfeydd arfordirol.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sylwch y gallai fod ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad hwn, gallwch roi neu wrthod caniatâd i gael tynnu eich llun ar y diwrnod.
Artist profiles and statements
Jim Langley
Jim Langley yw cyfarwyddwr Nature’s Work, ymgynghoriaeth addysgol sy’n darparu teithiau cerdded tywys a chyrsiau sgiliau i unigolion a grwpiau. Mae Jim wedi ennill gwobr Arweinydd Mynydd Rhyngwladol ac mae ganddo MSc mewn cadwraeth a rheoli tir o Brifysgol Bangor. Mae wedi bod yn ymwneud ag addysg awyr agored trwy gydol ei yrfa ac wedi datblygu cyfoeth eang o brofiad yn arwain grwpiau nid yn unig ym myd natur a’r amgylchedd ond hefyd fel arweinydd mynyddoedd ac alldeithiau.