Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Diane Dal-pra: Diddymiadau

1 Gorffennaf 2023 - 7 Hydref 2023

Arddangosfa

  • Diane Dal-pra: Dissolutions, installation view at Mostyn, 2023. Image: Rob Battersby.

  • Diane Dal-pra: Dissolutions, installation view at Mostyn, 2023. Image: Rob Battersby.

  • Diane Dal-pra: Dissolutions, installation view at Mostyn, 2023. Image: Rob Battersby.y

  • Diane Dal-pra: Dissolutions, installation view at Mostyn, 2023. Image: Rob Battersby.

  • Diane Dal-pra: Dissolutions, installation view at Mostyn, 2023. Image: Rob Battersby.

  • Diane Dal-pra: Dissolutions, installation view at Mostyn, 2023. Image: Rob Battersby.

Rhwng 1 Gorffennaf a 7 Hydref 2023, bydd Mostyn yn cyflwyno’r arddangosfa sefydliadol unigol gyntaf yn y DU gan yr artist Ffrengig Diane Dal-pra, seren ar gynnydd yng nghelfyddyd paentio cyfoes.

Mae gwaith Dal-pra yn hudo ac yn peri gofid i’r gwyliwr gyda’i gyfansoddiad a’i fanylion amwys. Thema ganolog ei gwaith yw deuoliaeth ein perthynas ag eiddo. Mae defodau ac ofergoelion o amgylch gwrthrychau yn rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a pharhad, ac yn eu tro, mae’r gwrthrychau rydyn ni’n berchen arnyn nhw yn ein hamlyncu a’n hunaniaeth yn ogystal â bod yn ffynhonnell cysur.

Bydd yr arddangosfa yn cyflwyno cyfres o baentiadau, gan gynnwys gwaith newydd, sy’n fanwl, yn amwys ac yn hudolus ar yr un pryd. Yn aml yn gysylltiedig â haenau o agosatrwydd a hyd yn oed voyeuriaeth, mae’r corff newydd o waith yn canolbwyntio ar ddefodau, perthnasoedd, obsesiynau a theimladau ein bywyd bob dydd. Mae ei chasgliadau seicolegol yn datgelu manylion gwrthrychau, sefyllfaoedd a chyrff sydd wedi’u maglu mewn cydbwysedd ansicr o atgofion a dychymyg. Ni allwn wybod ble mae’r naill yn gorffen a’r llall yn dechrau, a thrwy sefyll o flaen y gweithiau, symudwn drwy dirwedd o weddillion tawel, eiliadau unig ac awyrgylch annifyr, dryslyd – fel “cyfnod anhunedd diddiwedd lle mae tawelwch ffug yn ildio i deimlad bygythiol” (Marion Coindeau).

Cefnogir yr arddangosfa yn garedig gan Fluxus.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr