Arddangosfa
Mae cerfluniau Oren Pinhassi yn archwilio’r berthynas rhwng y ffigwr dynol, natur a’r amgylchedd adeiledig. Wedi’u gwneud o dywod a phlastr a’u haenu â llaw dros sgerbydau dur wedi’u weldio, mae’r ffigurau totemig yn bodoli mewn cyflwr o fetamorffosis, yn barod i ddymchwel neu ailddyfeisio eu hunain, wedi’u dal rhwng bywyd a marwolaeth, gwneud a dod yn rhywbeth.
Mae’r cerfluniau yn Galwad Ffug yn hybridiau bregus, sy’n dwyn i gof hynafiaeth ond eto’n rhagweld dyfodol heb ei ddiffinio, lle nad yw dosbarthiadau traddodiadol bellach yn berthnasol. Gan gymryd defodau galaru fel pwynt cysyniadol o ymadawiad, mae’r gweithiau’n archwilio rhesymeg galaru fel safle adnewyddu – mae realiti cyfarwydd wedi’i golli, gan ildio i rywbeth newydd. Mae Pinhassi yn estyn gwahoddiad i ystyried ein marwoldeb a methiannau’r gorffennol, tra’n ein hannog i ddychmygu pa fath o fyd y gallem fyw ynddo.
Curadir yr arddangosfa gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, Mostyn a Kalliopi Tsipni-Kolaza, Curadur Cysylltiol y Celfyddydau Gweledol, Mostyn, gyda chefnogaeth Sefydliad Henry Moore, The Foundation Foundation ac Oriel Edel Assanti, Llundain. Gyda diolch arbennig i Xenia Creative Retreat.