Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Gweithdy Symudiad Creadigol (i bobl ifanc ac oedolion)

19 Awst 2023

Time: 11yb-1yp

Gweithdy

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim gyda’r therapydd yoga Nansi Marshall.

Archwilio symudiad creadigol a dilyniannu trwy’r elfennau. Dysgwch sut i symud yn reddfol a chysylltu’n gorfforol ac yn ysbrydol trwy gymryd ysbrydoliaeth o fyd natur. Bydd y gweithdy hwn yn eich galluogi i feithrin hyder o fewn eich ymarfer corfforol eich hun, gan hyrwyddo agwedd greadigol ar symud, tra’n gwneud i chi deimlo’n ddigynnwrf, wedi’ch ysbrydoli ac yn gyfforddus.

Mae gennym ni fatiau yoga ar gael, ond mae croeso i chi ddod â rhai eich hun.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Artist profiles and statements

Nansi Marshall

Mae Nansi Marshall yn therapydd ioga ac yn adweithegydd cymwysedig ac yn sylfaenydd The Wellbeing Hub. Mae Nansi yn fedrus wrth greu gofod i chi ddod o hyd i heddwch, llonyddwch a chysur o fewn byd swnllyd a phrysur. Mae Nansi wedi ymrwymo i greu gofod diogel i unigolion ymuno â’i gilydd a mynd at iachâd mewn modd hamddenol, heb bwysau.

Book

Event information

Cost: Am Ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr