Gweithdy
Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim gyda’r artist Heledd Wyn Hardy ar daith i Goedwig Gwydyr.
Yn y gweithdy hwn byddwch yn darganfod pŵer y goedwig. Gall y dull syml o ymdrochi yn y goedwig, bod yn dawel a llonydd ymhlith y coed, arsylwi natur o’ch cwmpas wrth anadlu’n ddwfn helpu i leddfu straen a hybu iechyd a lles mewn ffordd naturiol. Byddwn yn cerdded gyda llygaid sy’n arsylwi ac yn fframio ein syllu gyda’n camerâu.
Dewch â dyfais sy’n gallu dal delweddau a sain.
Bydd deunyddiau eraill ar gael yn y gweithdy.
Cyfarfod ym Mostyn, bydd bws yn mynd â phawb i Goedwig Gwydyr.
Rydym yn argymell esgidiau cyfforddus, dillad priodol a phecyn bwyd.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sylwch efallai y bydd ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad hwn, gallwch roi neu wrthod caniatâd i dynnu llun ar y diwrnod.
Artist profiles and statements
Heledd Wyn Hardy
Mae Heledd wedi bod yn dehongli a chipio eiliadau ar ffilm ers plentyndod, gan chwarae gyda golau a symudiad i ddod â chymeriadau a’u straeon yn fyw. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda lluniau llonydd a symudol i ddal momentau. Ar ôl astudio Celfyddyd Gain, mae ganddi lygad craff am fanylion ac mae’n mwynhau dehongli delweddau’n greadigol. Gyda gradd mewn Drama, a hyfforddiant NFTS a’r BBC, gan arbenigo mewn Ffilm a Theledu, mae hi’n dod â chyffro’n fyw trwy lens. Dyma sgil y mae hi wedi bod yn ei hogi yn ystod ei gyrfa, gan sicrhau ei bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau technolegol, ond hefyd yn cynnal ymdeimlad traddodiadol o adrodd straeon i ddal dychymyg y gynulleidfa. Mae hi’n mwynhau archwilio, arholi ac arbrofi er mwyn cyfoethogi a datblygu ei gwaith. Mae hi wedi arddangos a sgrinio ei gwaith yn eang.