Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Ioga oriel gyda Bryony Williams a Rosemarie Castoro ‘Cerfio Gofod’

7 Chwefror 2024

Time: 9.15 - 10.30

Digwyddiad

Ymunwch â hyfforddwr Ioga ardystiedig, Bryony Williams, am sesiwn yoga ben bore yn Oriel Mostyn. I gyd-fynd â’n harddangosfa gyfredol o waith Rosemarie Castoro, rydym yn eich gwahodd i fwynhau’r celf trwy sesiwn dawel o yoga yn yr oriel, ac yn debyg iawn i Castoro, Cerfiwch eich gofod eich hun! Bydd taith fer o waith Rosemarie yn eich cyflwyno i’w bywyd a’i gwaith fel artist a dawnsiwr, ar ôl astudio dawns arbrofol fel myfyiwr yn Efrog Newydd.

Mae’r sesiwn hon yn addas i ddechreuwyr ond gall pob lefel o allu ei mwynhau.

Bydd y sesiwn hon yn cychwyn yn gyntaf gyda chyflwyniad byr i waith Rosemarie Castoro, ac yna sesiwn awr o hyd gyda Bryony. Cyrhaeddwch mewn pryd i ganiatáu profiad llawn o ddwy elfen y digwyddiad hwn.

Mae gennym ni fatiau ar gael i chi eu defnyddio os nad oes gennych chi un. Mae’r rhain yn gyfyngedig ac ar gael trwy’r opsiynau tocyn. Os oes gennych chi’ch mat eich hun, dewch ag ef gyda chi fel y gallwn gynnig lleoedd gwag i’r rhai nad oes ganddynt rai eu hunain.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â [email protected]

Book

Event information

Cost: Free

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr