Gweithdy
Fel rhan o’n prosiect Isdyfiant, ac mewn cydweithrediad â Kristin Luke – sy’n arddangos ‘Siop Mwynglawdd Taflen Blodyn Penglog’ ar hyn o bryd ym Mostyn, rydym yn cynnal y gweithdy risograff hwn! Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn archwilio llên gwerin a chwedl sy’n berthnasol i arddangosfa ac ardal Dyffryn Penmachno/Machno. Byddwch yn cymryd rhan mewn ymarfer ysgrifennu ‘corff cain’, gan greu stori werin gydweithredol weledol a thestun. Byddwch hefyd yn defnyddio’r risograff i greu printiau A4 sy’n cynrychioli’r stori werin hon. Bydd printiau wedyn yn cael eu hymgorffori yng nghyhoeddiad yr arddangosfa a gall cyfranogwyr hefyd fynd â’u copïau eu hunain adref.
Digwyddiad grŵp yw hwn a gynhelir mewn gofod ar lefel y ddaear, gyda chyfleusterau hygyrch. Am gwestiynau am lety mynediad neu unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01492 879201
Mae’r digwyddiad yma yn rhan o prosiect ‘Isdyfiant’ sydd wedi ei ariannu gan ‘Shared Prosperity Funding’.