Prosiect

Mae Mostyn a Making Sense CIC yn cydweithio ar gyfer cyfres o weithdai synhwyraidd ar gyfer bobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion ychwanegol.
Bob mis bydd grŵp o ysgol leol, canolfan ddydd neu asiantaethau cymdeithasol yn cael eu gwahodd i archwilio a rhyngweithio â’n rhaglen arddangosfeydd trwy ddefnyddio dehongliad amlsynhwyraidd a gweithdai wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfeydd.
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal ar 14eg o Orffennaf, 16eg o Awst, 15fed ac 18fed o Fedi rhwng 10:30yb a 12:00yh. Yn ystod y gweithdai hyn bydd Gofod y Prosiect neu Stiwdio Ddysgu ar gau dros dro i’r cyhoedd.
Artist profiles and statements
Ticky Lowe
Mae Ticky Lowe yn artist aml-gyfrwng gydag arfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Hi yw Cyfarwyddwr Making Sense, Cwmni Buddiannau Cymunedol sy’n ceisio ymgysylltu â chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd gyda phrofiadau synhwyraidd a chreadigol trwy weithio mewn partneriaeth â lleoliadau celfyddydol a diwylliannol.
Mae hyn yn cynnwys gweithdai synhwyraidd ar gyfer babanod a phlant bach mewn orielau celf, creu adnoddau hel atgofion ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a chyflwyno parseli synhwyraidd cyffrous i ganolfannau dydd ar gyfer sesiynau a gynhelir gan staff ar gyfer pobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog.