Taith arddangos

Ymunwch â Chyfarwyddwr a churadur MOSTYN Alfredo Cramerotti am daith wyneb yn wyneb arbennig o Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw a fydd yn archwilio’r artistiaid ac yn edrych yn ddyfnach ar y gweithiau amrywiol a gyflwynir yn yr arddangosfa.
Cefnogir y daith hon gan ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.