Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Haf o Hwyl: Archwilio’r broses ffotograffig amgen: cyanotype

16 Awst 2022

Time: 13:30 - 15:30

Gweithdy plant

Bydd y gweithdy dwy awr hwyliog hwn yn cyflwyno myfyrwyr i un o’r prosesau argraffu cynharaf. Byddant yn dysgu sut i greu eu ‘cyanotypes’ eu hunain, gan arbrofi gyda’r broses mewn amrywiaeth o ffyrdd i gynhyrchu printiau glas gwreiddiol hardd a ddatgelir gan olau’r haul.

Anogir cyfranogwyr i ddod ag ychydig o wrthrychau gyda nhw – er enghraifft, rhywbeth bach sydd â siâp diffiniedig y maent yn cysylltu ag ef, blodau gwyllt, dail, neu darparwch ddelwedd ddigidol ymlaen llaw y gellir ei gwneud yn negatif ar gyfer eich print unigryw.

Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at blant 6-11 oed.

Gall rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr fynychu’r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.


 Yr haf hwn mae Mostyn wedi partneru â CARN i gyflwyno rhaglen am ddim o weithdai a gweithgareddau dan arweiniad artistiaid dros chwe wythnos o wyliau’r haf.

Wedi’u hanelu at oedrannau 6-11 a 12-16, mae’r gweithdai hyn yn gwahodd pobl ifanc i archwilio deunyddiau a phrosesau newydd sydd wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa gyfredol Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw. Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i bobl ifanc greu gweithiau newydd sy’n defnyddio mapio i archwilio themâu hunaniaeth, ysbrydolrwydd, isymwybod, teimlad a chof.

Mae’r gweithgareddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim yn sgil grant gan Lywodraeth Cymru.

Artist profiles and statements

Justine MacGregor

Mae Justine MacGregor Montford yn arlunydd amlddisgyblaethol, sy’n gweithio gyda ffotograffiaeth analog, fideo, darlunio a cerflunio. Mae ei stiwdio a’i hystafell dywyll wedi’i leoli ym Mharc Glynllifon, Caernarfon lle bydd yn cynnal gweithdai a chyrsiau ffotograffiaeth analog yn y dyfodol, ac ar hyn o bryd mae ei stiwdio ar agor trwy apwyntiad. Mae Justine wedi’i lleoli ger Caernarfon.

CARN

Mae CARN yn fenter a arweinir gan artistiaid, mae’n agored i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac aelodau o’r gymuned. Rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau, creadigrwydd ac sy’n gallu gweld ei fuddion tuag at les a ffyniant y gymuned.  Mae gan CARN ofod oriel dan arweiniad artistiaid, mae’n cynnal gweithdai cymunedol, sgyrsiau, preswyliadau ac arddangosfeydd a phrosiectau allanol.

Archebu

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr