Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Haf o Hwyl: Printio Cyfrwng Cymysg

25 Awst 2022

Time: 13:30 - 15:30

Gweithdy plant

Caption for image

Dewch i greu darn o gelf unigryw trwy technegau printio gwahanol a chymysgu gyda’r proses gludwaith. Mi fyddan ni yn defnyddio’r arddangosfa ‘Temporary Atlas’ fel ysbrydoliaeth, enwedig gwaith celf Sanford Biggers trwy edrych ar ei phatrymau a lliwiau yn ei cwilt. Trwy defnyddio prosesau ac deunyddiau celf canlynol, argraffu ar sgrin, monoprintio, defnyddio papur carbon, papurau effemera a lliw.

Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at blant 6-11 oed.

Gall rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr fynychu’r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.


Yr haf hwn mae Mostyn wedi partneru â CARN i gyflwyno rhaglen am ddim o weithdai a gweithgareddau dan arweiniad artistiaid dros chwe wythnos o wyliau’r haf.

Wedi’u hanelu at oedrannau 6-11 a 12-16, mae’r gweithdai hyn yn gwahodd pobl ifanc i archwilio deunyddiau a phrosesau newydd sydd wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa gyfredol Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw. Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i bobl ifanc greu gweithiau newydd sy’n defnyddio mapio i archwilio themâu hunaniaeth, ysbrydolrwydd, isymwybod, teimlad a chof.

Mae’r gweithgareddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim yn sgil grant gan Lywodraeth Cymru.

Artist profiles and statements

Rebecca F Hardy

“Rwy’n artist aml-ddisgybliaeth sy’n gweithio’n gyfredol mewn cerflun, gosodiadau, ffotograffiaeth a fidio. Mae’n ddiddordebau ymestynol o gatolegu artiffactau, y parhad o symudiad a’r cynildeb o wrthrychau. Y berthynas rhwng arwynebau fflat a’r tri-dimensiwn, o fewn gwead, lliw a ffurf.”

Mae Rebecca wedi’i lleoli yn Bethesda.

CARN

Mae CARN yn fenter a arweinir gan artistiaid, mae’n agored i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac aelodau o’r gymuned. Rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau, creadigrwydd ac sy’n gallu gweld ei fuddion tuag at les a ffyniant y gymuned.  Mae gan CARN ofod oriel dan arweiniad artistiaid, mae’n cynnal gweithdai cymunedol, sgyrsiau, preswyliadau ac arddangosfeydd a phrosiectau allanol.

Archebu

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr