Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Adleisiau Preswylwyr: Creu gofod cyfunol

24 Tachwedd 2022 - 25 Chwefror 2023

Prosiect

Mae’n bleser gan Mostyn gyhoeddi comisiwn cydweithredol newydd gyda’r practis pensaernïaeth gymdeithasol wedi ei leoli yn Sheffield, Studio Polpo.

Wedi’i ddylanwadu gan raglen gyhoeddus yn gweithio gyda phreswylwyr lleol a gweithwyr sy’n gysylltiedig â Mostyn trwy fentrau cymdeithasol, canolfannau cymunedol, a gwasanaethau iechyd meddwl yn ein hardal, bydd y comisiwn newydd yn gwella Gofod y Prosiect fel adnodd cyhoeddus, gan ymgorffori dylunio dodrefn newydd, pensaernïaeth fewnol a sain.

Gan ymateb i’r cwestiwn, ‘Sut gall Mostyn greu gofod lle gall ein cymunedau deimlo’n gartrefol?’, bydd y rhaglen sydd ar ddod yn cynhyrchu gweithdai, teithiau cerdded, cynulliadau cymunedol a phreswyliad byr gyda’r artistiaid sain o Gonwy, Graham Hembrough a Carl Richardson.

Gan weithio ar y cyd ag amgylchoedd trefol Mostyn, bydd y prosiect yn datblygu’r Gofod Prosiect yn adnodd creadigol ar gyfer cymunedau cyfagos ac yn safle ar gyfer cydweithio artistig yn y dyfodol, gan gynnig gofod cyffrous ac amgen er mwyn ymgysylltu’n feirniadol â chelf gyfoes a chysylltu Mostyn â’i amgylchoedd cymdeithasol.


Adleisiau Preswylwyr: Preswyliad Lleisiau Cyfunol: 24-26.11.2022

Sut mae ein cymunedau cyfagos yn teimlo am yr ardal y maent yn byw ynddi? Beth yw’r lleoedd y mae preswylwyr lleol yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â nhw o amgylch Llandudno? Sut gall Mostyn greu gofod lle gall cymunedau deimlo’n gartrefol yn yr oriel?

Mewn ymateb i’r cwestiynau hyn, mae Mostyn yn cyflwyno Adleisiau Preswylwyr, prosiect cydweithredol newydd gyda’r practis pensaernïaeth gymdeithasol wedi’i leoli yn Sheffield, Studio Polpo, a’r artistiaid sain o Gonwy, Graham Hembrough a Carl Richardson.

Dros dridiau bydd yr artistiaid yn preswylio mewn lleoliadau ar draws Llandudno ac o fewn yr oriel i gwrdd â chymunedau a’r cyhoedd ehangach. Trwy’r cynulliadau hyn a recordiwyd, bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau sain newydd a fydd yn cyflwyno portread o’r dref trwy’r lleisiau torfol yn y mannau cyhoeddus hyn.

Bydd y gweithiau newydd hyn yn cael eu cyflwyno yn Gofod Prosiect Mostyn yn 2023, ar-lein ac o fewn Gofod Prosiect Mostyn sydd newydd ei drawsnewid, man lle gall ein cymunedau a’r cyhoedd ehangach ddod at ei gilydd a dod ar draws ein rhaglenni mewn ffyrdd amgen a newydd.

Dydd Iau, 24 Tachwedd 2022 – Canolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn: Bord Gron
Mae Canolfan Gymunedol Ty Llywelyn yn ganolfan gymunedol gyffrous a chroesawgar yng nghanol ystâd Tre Cwm yn Llandudno. Yn cael ei redeg gan dîm ymroddedig o weithwyr a gwirfoddolwyr, mae ei gyfleusterau yn cynnig nifer enfawr o ddosbarthiadau a gweithgareddau, o chwaraeon ac ymarfer corff i weithdai, cerddoriaeth a grwpiau i blant.

Dydd Gwener, 25 Tachwedd 2022 – Canol Tref Llandudno: Taith Gerdded a Siarad
Wedi’i hysbrydoli gan ymagwedd ConwyMIND, elusen annibynnol i gefnogi gwell iechyd meddwl a lles i bobl ar draws Sir Conwy, mae’r Taith Gerdded a Siarad hon yn wahoddiad i grwydro’r dref a rhannu atgofion am leoedd sydd ag ystyr arbennig i drigolion lleol. Bydd Y Taith Gerdded a Siarad yn cofnodi’r daith, trwy’r sgyrsiau, y symudiadau a sŵn yr elfennau sy’n ein hamgylchynu ar y ffordd.

Gwahoddir cyfranogwyr y digwyddiad hwn i gynnig lleoliadau yng nghanol y dref yr hoffent eu rhannu ymlaen llaw. Byddwch yn ymwybodol bod y digwyddiad hwn yn cynnwys cerdded yn yr awyr agored ac rydym yn eich cynghori i wisgo dillad ac esgidiau cynnes sy’n dal dŵr. Fydd y llwybr y daith gerdded a’r siarad hwn yn cael ei rhannu gyda deiliaid tocynnau ar y 22 o Dachwedd cyn y digwyddiad. 

Mae croeso i chi ymuno a gadael pryd bynnag y teimlwch yn gyfforddus. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol siaradwch â ni ar 01492 879201 neu ysgrifennwch atom yn [email protected].

Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd 2022 – Gofod Prosiect Mostyn: Sesiwn Agored
Ymunwch â Studio Polpo, Carl Richardson a Graham Hembrough yn y Gofod Prosiect am ddiwrnod o deithiau, gweithgareddau a sesiwn recordio gydweithredol. Nid y gelfyddyd gyfoes ryngwladol a gyflwynwn yn yr orielau yn unig yw’r profiad ym Mostyn. Mae’r cyhoedd yn defnyddio ein gofodau am wahanol resymau ac mewn gwahanol ffyrdd. Efallai eich bod yn gwsmer rheolaidd yng Nghaffi Oriel neu Siop Oriel, efallai y byddwch yn defnyddio’r cyfleusterau am ddim wrth fynd o gwmpas eich diwrnod arferol. 

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb ac nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr celf i gymryd rhan. Nod y sesiwn wedi’i recordio yw adlewyrchu hyn, a gofyn y cwestiwn i’r cyhoedd, sut gall Gofod y Prosiect helpu pobl i deimlo’n fwy cartrefol yn yr oriel.

Galw-mewn unrhyw bryd rhwng 12pm-4pm, Dydd Iau 26 o Dachwedd.

Artist profiles and statements

Studio Polpo

Mae Studio Polpo yn gydweithfa pensaernïaeth menter gymdeithasol ac ymchwil wedi’i lleoli yn Sheffield, yn gweithio’n bennaf yn y celfyddydau a’r trydydd sector. Ymgymerir â’u gwaith trwy gyfnewidiadau ag eraill, gan gynnwys pobl o ddisgyblaethau a chefndiroedd gwahanol ac amrywiol, dull a all arwain at bensaernïaeth fwy beirniadol, wedi’i lleoli ac ymatebol. Mae arferion cydweithredol yn caniatáu i’r stiwdio fynd i’r afael â materion ehangach sy’n ymwneud â chyfiawnder gofodol, cymdeithasol ac ecolegol. Mae’r stiwdio wedi’i chysylltu â phrosiectau actifydd, cymunedol a diwylliannol, ac mae’n gweithio gyda nhw i fframio cwestiynau, themâu, a safleoedd ar gyfer gweithredu. Roedd Studio Polpo yn ddiweddar yn rhan o’r tîm sy’n cynrychioli’r DU yn Biennale Pensaernïaeth Fenis; archwiliodd eu gosodiad ymdrochol o fewn y Pafiliwn Prydeinig y Stryd Fawr Brydeinig fel man o gyfnewid anariannol.

Graham Hembrough

Mae Graham yn Ffotograffydd Dogfen Gymdeithasol gyda diddordeb arbennig mewn pobl, eu hamgylcheddau naturiol ac o waith dyn a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae prosiectau Graham yn aml yn cwmpasu pontio tymor byr a hirdymor. Mae Graham hefyd yn hyfforddwr ffotograffiaeth llawrydd ac (dros y cyfnodau cloi) wedi datblygu ei sgiliau recordio sain gan ychwanegu at ei ymrwymiadau creadigol.

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys, ‘Prosiect Artistiaid a Gwneuthurwyr Conwy’ RCA, (Ffotograffiaeth a Thirweddau Sain) a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (2021-22), ‘Sounds for an empty House’ cydweithrediad sain rhyngwladol Soundlands.org (2021), People of Conwy’, comisiwn Canolfan Ddiwylliant Conwy (2019) Ireland, there and back [again] (Ar y gweill), Retake Reinvent – Artist Portraits, gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor ac Amgueddfa Cymru ymhlith prosiectau eraill.

Carl Richardson

Mae Carl Richardson yn artist sain wedi ei leoli yn Nghonwy gyda dros 16 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant ar draws teledu, ffilm, podledu, gemau a rhaglenni. Mae ei ddull cydweithredol o wneud sain wedi arwain at gymryd rhan mewn prosiectau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan weithio gyda stiwdios annibynnol, cymunedol a mawr. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys; Cartref Gofal y Waun – Video Ninja (2022), The Disappearance of Jayden Jones – Bright Branch Media (2021), Accidental Guru – Kerry Peers & Eric Loren (2021), Broken Angels – Hiraeth Pictures (2021), Concerning Safety – Cerdd a Ffilm Cymunedol (2021).

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr