Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Adleisiau Preswylwyr: Sesiwn Agored

26 Tachwedd 2022

Time: 12:00 - 16:00

Digwyddiad

Sut mae ein cymunedau cyfagos yn teimlo am yr ardal y maent yn byw ynddi? Beth yw’r lleoedd y mae preswylwyr lleol yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â nhw o amgylch Llandudno? Sut gall Mostyn greu gofod lle gall cymunedau deimlo’n gartrefol yn yr oriel?

Mewn ymateb i’r cwestiynau hyn, mae Mostyn yn cyflwyno Adleisiau Preswylwyr, prosiect cydweithredol newydd gyda’r practis pensaernïaeth gymdeithasol wedi’i leoli yn Sheffield, Studio Polpo, a’r artistiaid sain o Gonwy, Graham Hembrough a Carl Richardson.

Dros dridiau bydd yr artistiaid yn preswylio mewn lleoliadau ar draws Llandudno ac o fewn yr oriel i gwrdd â chymunedau a’r cyhoedd ehangach. Trwy’r cynulliadau hyn a recordiwyd, bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau sain newydd a fydd yn cyflwyno portread o’r dref trwy’r lleisiau torfol yn y mannau cyhoeddus hyn.

Bydd y gweithiau newydd hyn yn cael eu cyflwyno yn Gofod Prosiect Mostyn yn 2023, ar-lein ac o fewn Gofod Prosiect Mostyn sydd newydd ei drawsnewid, man lle gall ein cymunedau a’r cyhoedd ehangach ddod at ei gilydd a dod ar draws ein rhaglenni mewn ffyrdd amgen a newydd.

Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd 2022 – Gofod Prosiect Mostyn: Sesiwn Agored
Ymunwch â Studio Polpo, Carl Richardson a Graham Hembrough yn y Gofod Prosiect am ddiwrnod o deithiau, gweithgareddau a sesiwn recordio gydweithredol. Nid y gelfyddyd gyfoes ryngwladol a gyflwynwn yn yr orielau yn unig yw’r profiad ym Mostyn. Mae’r cyhoedd yn defnyddio ein gofodau am wahanol resymau ac mewn gwahanol ffyrdd. Efallai eich bod yn gwsmer rheolaidd yng Nghaffi Oriel neu Siop Oriel, efallai y byddwch yn defnyddio’r cyfleusterau am ddim wrth fynd o gwmpas eich diwrnod arferol.

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb ac nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr celf i gymryd rhan. Nod y sesiwn wedi’i recordio yw adlewyrchu hyn, a gofyn y cwestiwn i’r cyhoedd, sut gall Gofod y Prosiect helpu pobl i deimlo’n fwy cartrefol yn yr oriel.

Galw-mewn unrhyw bryd rhwng 12pm-4pm, Dydd Iau 26 o Dachwedd.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr