Gweithdy plant
Yn y gweithdy 2 awr hwn, byddwn yn profi gwaith celf Taloi Havini i ddarganfod sut mae’n archwilio thema cyfiawnder amgylcheddol.
Yna byddwn yn dylunio arwyddion protest ein hunain i dynnu sylw at y materion amgylcheddol sy’n wynebu ein cymunedau – yn Llandudno a thu hwnt.
Byddwn yn defnyddio darlunio, collage, a phaentio i wneud ein harwyddion mor ddeniadol â phosibl.
Ar ôl cwblhau ein harwyddion, byddwn yn cynnal gorymdaith ein hunain!
5+ oed. Rhaid i bob plentyn gael ei oruchwylio a bod yng nghwmni oedolyn. Archebwch docyn i bob aelod o’r grŵp fynychu, gan gynnwys rhieni neu warcheidwaid.