Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Apostolos Georgiou: Materion yr Anymwybod

5 Hydref 2024 - 25 Ionawr 2025

Arddangosfa

Apostolos Georgiou, Untitled, 2021.

Arddangosfa o baentiadau a darluniau gan yr arlunydd Groegaidd Apostolos Georgiou yw Materion yr Anymwybod, a’i gyflwyniad sefydliadol cyntaf yn y DU.

Mae gwaith Georgiou yn archwilio themâu bodolaeth dyn trwy ganolbwyntio ar y cyflwr dynol. Mae ffigurau yn y broses o gwympo, cysgodion tebyg i glown, ysgrifenwyr breuddwydion bwganllyd ac ymdrochwyr yn poblogi ei olygfeydd. Er ei fod yn ymddangos yn ffigurol, gellir dadlau bod ei baentiadau yn haniaethol yn y ffordd y maent yn adrodd straeon; mae’r rhain yn straeon nad oes neb yn eu gwybod. Fel llawer o arlunwyr haniaethol, mae Georgiou yn gwrthod rhoi teitl i’w baentiadau, gan annog cynulleidfaoedd i greu eu dehongliadau eu hunain. Mae’n gwrthod rhoi ystyr fel ffordd o osgoi esgus, gan wrthod creu argraff ar y gynulleidfa gan gredu nad oes angen diffiniad o wirionedd.

Mae paentiadau Georgiou yn ymdrechu i sicrhau eglurder a hylifedd, gan bwysleisio nad eiliadau o fywyd bob dydd yw’r golygfeydd y mae’n eu darlunio, ond adlewyrchiadau o feddyliau bob dydd, penodau doniol ffuglennol. Mae’r sefyllfaoedd y mae’n eu darlunio yn ei waith yn dod yn rhesymegol yn unig gydag amser gwylio hir, gan ein gwahodd i ail-edrych ar ein bywydau ein hunain gyda thynerwch ac empathi.

Mae Apostolos Georgiou (g. 1952 yn Thessaloniki, Gwlad Groeg) yn byw ac yn gweithio yn Athen a Skopelos.

Curadurir Materion yr Anymwybod gan Kalliopi Tsipni Kolaza, Curadur Celf Weledol, Mostyn. Cefnogir yr arddangosfa gan Sylvia Kouvali, Llundain/Piraeus.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr