Digwyddiad , Gweithdy plant
Ymunwch â ni yn Oriel Mostyn ar gyfer Babi Brahms.
Wedi’i berfformio gan gerddorion rhagorol, mae’r cyngerdd cerddoriaeth glasurol rhad ac am ddim hwn yn addas ar gyfer babanod a phlant bach. Cewch gyfle i archwilio’r offerynnau hefyd!
Archebwch docyn ar wahân ar gyfer pob babi, plentyn bach a rhiant neu warcheidwad sy’n mynychu.
Ariennir y sesiwn hon yn hael gan Ariannu Ffyniant a Rennir.