Arddangosfa
Bu Rosemarie Castoro (1939-2015) yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd ar hyd ei hoes, gan ddod yn ffigwr canolog yn sin Celf Minimalaidd a Chysyniadol y ddinas tra’n gwadu’r categoreiddio hwnnw, gan ddatgan “Nid wyf yn finimalydd, yr wyf yn facsimalydd”.
Gan ddod o hyd i ysbrydoliaeth gynnar mewn dawns arbrofol a choreograffi tra’n fyfyriwr yn y Pratt Institute, Brooklyn, ac mewn cydweithrediadau dilynol gyda’r dawnsiwr Yvonne Rainer yn y 1960au, roedd gwaith Castoro ar hyd ei bywyd yn arddangos cymeriad hynod o berfformio a dealltwriaeth o ofod a symudiad. “Ydy fy holl broblemau wedi’u chanoli o amgylch gofod? Ar un adeg – amser oedd fy mhroblem. Nawr, gofod. Rwyf am gerfio gofod. Rwy’n cerfio gofod”, ysgrifennodd yn ei chyfnodolyn rhwng 1972 a 1973.
Ar hyd ei bywyd dangosodd duedd i gyfuno cyfryngau – gan ddatgan ei hun yn ‘gerflunpeintiwr’. Mae’r gweithiau yn y sioe yn dangos ei hymarfer helaeth o’r 1960au ymlaen ac yn cynnwys paentio, gwaith ar bapur, fideo, barddoniaeth goncrit, gwaith cerfwedd wal, cerfluniol, darnau llawr a deunydd archifol.
Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, Mostyn a Kalliopi Tsipni-Kolaza, Curadur Cysylltiol y Celfyddydau Gweledol, Mostyn, a’i gefnogi’n garedig gan Sefydliad Henry Moore, Ystad Rosemarie Castoro ac Oriel Thaddaeus Ropac, Llundain · Paris · Salzburg · Seoul, gyda diolch arbennig i Werner Pichler.