Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

StudioMADE: Perfformiad Rhyngweithiol

4 Chwefror 2023

Time: 13:00 -14:00

Digwyddiad

I gloi arddangosfa anhygoel Cerith Wyn Evans yn ein prif orielau, bydd StudioMADE yn cynhyrchu perfformiad byw arbennig ychwanegol y gwahoddir y cyhoedd i ryngweithio ac ymuno ynddo.

Gan gwmpasu sain a golau, bydd y perfformiad yn ymgysylltu â syniadau o gyfieithu ar draws y synhwyrau. Yn canolbwyntio ar brofiad cyfranogol i archwilio symudiad i mewn i sain, tafluniad golau, synthesis fideo sain a rhyngweithedd gofodol. Mae’r digwyddiad yn gosod y gynulleidfa fel cyd-grewyr o fewn system ymatebol.

Artist profiles and statements

StudioMADE

Wedi’i sefydlu yn 2016, mae studioMADE yn labordy creadigol a sefydlwyd gan Angela Davies a Mark Eaglen sy’n gweithredu ar draws disgyblaethau Celf, Gwyddoniaeth, Technoleg a Natur. Wedi’i siapio o amgylch cyd-destunau diwylliannol y gorffennol, y presennol a’r dyfodol damcaniaethol; rhennir darganfyddiadau o fewn rhaglen weithredol o ddigwyddiadau, arddangosfeydd, cyflwyniadau cyhoeddus a gweithdai addysgol.

Wedi’i leoli yn y Carriageworks yn Ninbych, mae’r adeilad diwydiannol hanesyddol yn gweithredu ar dri llawr sy’n cynnwys y prif ofod arddangos, stiwdios gweithredol a rhaglen breswyl sydd i’w lansio’n fuan. Gan geisio ysbrydoli cysylltiadau o fewn byd cymhleth, mae studioMADE yn cofleidio safbwyntiau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr