Digwyddiad
Mae’r digwyddiad hwn yn nodi diwedd dangosiad Mostyn o ffilm Owain Train McGilvary a Dylan Huw, Fel gwacter, a gomisiynwyd gan Mostyn a LUX fel rhan o raglen CELF (Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru).
Dyma wahoddiad i fod yn ran o brynhawn o sgwrsio a ffilmiau, bydd yn defnyddio archwiliad y ffilm o sut gall tyllau ac absenoldebau yn niwylliant gweledol Cymru fod yn deunydd i gynhyrchu naratifau fel-arall fel sbardun. Bydd yn ddigwyddiad anffurfiol, rhyngweithiol, cyfrwng-Saesneg ar y cyfan. Annogwn artistiaid a gweithwyr diwylliant yn enwedig i fynychu.
Bydd y digwyddiad yn cychwyn gyda sgwrs rhwng yr artistiaid a’r artist-ymchwilydd Joanna Wright am gyd-destunau a themâu Fel gwacter, cyn rhaglen o ffilmiau byrion o gasgliad LUX bu’n ddylanwad yn ystod datblygiad y ffilm. Hefyd yn dangos bydd Seeing Red (2024) gan Owain Train McGilvary, fu’n ran o Glasgow International ac sydd heb eto gael ei weld yng Nghymru.
Yn ail hanner y digwyddiad, bydd y curadur-gynhyrchydd ffilm Luke W Moody, gyda Owain a Dylan, yn hwyluso deialog agored am ddyfodolau posib i faes ffilm/fideo artistiaid yng Nghymru.
Awgrymwn bod mynychwyr yn gwylio Fel gwacter cyn dod; mae’r ffilm yn para 28 munud ac yn ail-ddechrau bob hanner awr yn Oriel 2 trwy gydol oriau agor Mostyn. Bydd isdeitlau Saesneg ar y fersiwn bydd ymlaen am 12:30yh, h.y. jyst cyn y digwyddiad.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i fachu un o gopîau cyntaf zine HOLESCAPES \ TWLLDIRWEDDAU, a grëwyd gan yr artistiaid fel datblygiad o broses ymchwil rhyngddisgyblaethol y ffilm. Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys ysgrifau gwreiddiol yn ymateb i Fel gwacter gan Steffan Gwynn, ffin Jordão a Talulah Thomas.
Gall Mostyn gyfrannu at gostau teithio rheiny sy’n teithio mwy na 30 milltir yn benodol i fynychu’r digwyddiad. Ebostiwch [email protected] am fanylion pellach, erbyn 17 Ionawr.
Mae Owain Train McGilvary (g.1992, Bangor) yn artist ffilm, darlunio, collage a phaentio. Mae wedi cydweithio gyda reslwyr, artistiaid drag, cerddorion, sgwenwyr ac artistiaid gweledol eraill i greu gwaith aml-gyfrwng ac aml-ieithog sy’n archwilio archifau o wahanol fathau. Mae’n ddarlithydd yn y Glasgow School of Art, a roedd yn Gymrawd Cymru Fenis 10 (2022-3).
Mae Dylan Huw (g.1996, Aberystwyth) yn sgwennu a chydweithio gydag artistiaid. Bu’n Gymrawd Cymru’r Dyfodol (2022-3), yn gymrawd ymchwil gyda Visual AIDS (2023) ac yn gymrawd curadurol gyda’r Flaherty Seminar (2023), ac mae ei waith annibynnol yn edrych at yr amodol a’r anghyflawn fel strategaethau ymchwiliol-greadigol. Mae’n sgwennu’n eang am gelf gyfoes a ffilm i e-flux, Frieze ac eraill, ac enillodd wobr yn y 10th International Award for Art Criticism.