Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

The Mycological Twist: MycoTV

Fideo

Mae MycoTV yn rhaglen deledu 5 diwrnod sy’n cael ei harwain gan Mycological Twist, prosiect o dan arweiniad yr artistiaid o Berlin Eloise Bonneviot ac Anne de Boer mewn cydweithrediad â’r artist Leslie Kulesh. Mae’r ail iteriad o MycoTV yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Mostyn.

Nos Llun 15 Mehefin – Nos Gwener 19 Mehefin, yn ddyddiol 6pm – 8pm BST (GMT+1)
ER SYLW: Mae KIDStv yn addas ar gyfer plant, ond na fydd peth o’r cynnwys mewn rhannau eraill o MycoTV yn briodol ar gyfer cynulleidfa iau. Hefyd, byddwch yn ymwybodol fod peth o’r fideo yn cynnwys golau sy’n fflachio.

Rhaglen: 

15 Mehefin: Blue Monday

18:03 – Holly White Boat yard
18:04 – Rosanna Puyol nuit augmente
18:16 – Holly White Electricity Pylons
18:17 Marija Bozinovska Jones Self Optimization through embodied psilocybin reading. Programming by Jayson Haebich
18:43 – Holly White Forest spot
18:46 – Holly White Playthrough of Journey to nothing

16 Mehefin: Indoor Activism 

18:03 – KIDS tv
18:05 – Juliette Desorgues Quarantine Diaries 
18:13 – Dr. Sibani Roy and Lee Tiratira in conversation
18:46 – Juliet Jacques Aphorisms on Self-Care 1

Cliciwch yma i wylio’r rhaglen hon.

17 Mehefin: Preppers 4 toilet paper 

18:03 – NEMESIS (Emily Segal and Martti Kalliala) Heaven (Luxury = Death)
18:20 – Angharad Williams the Trout
18:31 – Hannah Lees The ships skim across the surface of the city landscape

Cliciwch yma i wylio’r rhaglen hon.

18 Mehefin: Intimacy

18:03 – Lola Olufemi what will you sacrifice? quick. Quick.
“with thanks to Christina Sharpe, Jose Muñoz, Ernst Bloch and The Out of the Woods Collective for providing thinking to be built on, contested, turned upside down.”
18:15 – Clay AD Call in…
19:00 – Dylan Huw Syntrap

19 Mehefin: Household Ecologies

18:03 – Hamja Ahsan
18:29 – Huw Lemmey FERMENTATION
18:39 – Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė Gusła (Pentatonic)
18:46 – Rosanna Puyol nuit augmente (echo)

Cliciwch yma i wylio’r rhaglen hon.


Datblygwyd y rhaglen hon cyn i’r protestiadau cyfredol Black Lives Matter ddigwydd o gwmpas y byd. Nid ydym yn dymuno tynnu sylw oddi wrth y gweithredoedd a’r sgyrsiau pwysig sy’n digwydd mewn cefnogaeth o’r mudiad. Rydym wedi penderfynu mynd ymlaen â’r rhaglen gan ein bod yn credu y bydd yn rhoi pwyntiau trafod defnyddiol ac offer tuag at y symudiad pwysig hwn, trwy ei ffocws ar faterion gofal, undod, cymuned ac actifiaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfraniad gan weithredwyr cymunedol lleol Dr. Sibani Roy a Lee Tiratira sy’n gwneud gwaith gwrth-hiliol pwysig yng Ngogledd Cymru.
Bydd gwybodaeth am ffyrdd i helpu cefnogi a hyrwyddo’r mudiad protest cyfredol yn cael ei rannu trwy gydol y rhaglen. Bydd rhoddion yn cael ei gwneud i Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru http://eyst.org.uk/ a NWAMI https://www.nwami.org.uk/. Rydym yn eich annog i ddilyn a chefnogi’r sefydliadau hyn.
Hefyd, mae’r rhaglen yn ceisio mynd i’r afael â’r gwahanol frwydrau sydd wedi deillio o’r argyfwng Coronafeirws ac i lunio ymdeimlad o undod a gofal ar draws cymunedau. Bydd y darllediad yn cynnwys myfyrdodau beirniadol o ddisgyblaethau fel celf, ysgrifennu, cerddoriaeth, dylunio a gweithredu. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o sgyrsiau, gweithdai, darlleniadau a cherddoriaeth, gan ddefnyddio’r cysyniad o ‘SlowTV’ fel man cychwyn.
Fel teyrnged i’r geifr sy’n crwydro’n ddidrafferth ar hyd strydoedd Llandudno, mae MycoTV yn cyfleu’r syniad o imiwnedd praidd. Nid praidd sy’n datblygu imiwnedd, ond un sy’n gaeth i’w chartref ac yn barhaol heintus. Praidd sy’n feddal ac yn dyner a all rannu eiliad o anwyldeb drwy eiliad o gyd-ymgynnull rhithwir.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n ddyddiol ar-lein rhwng 6pm – 8pm  BST (GMT.+1). Bydd pob pennod yn cael ei rhannu’n ddarnau : KIDStv, DIYtv, THEORYtv, FICTIONtv a SLOWtv. Bydd pob dydd yn canolbwyntio ar themâu gwahanol, wedi’u hysbrydoli gan faterion a chwestiynau sy’n deillio o’r argyfwng presennol: Blue Mondays, Preppers 4 Toilet Paper, Indoor Activism, Household Ecologies, and Intimacy.
Ymhlith y cyfranwyr fydd: Clay AD, Hamja Ahsan, Marija Bozinovska Jones, Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė, Dylan Huw, Juliet Jacques, Hannah Lees, Huw Lemmey, Nemesis (Emily Segal and Martti Kalliala), Lola Olufemi, Rosanna Puyol, Dr. Sibani Roy, Lee Tiratira, Holly White, Angharad Williams.
Sefydlwyd The Mycological Twist gan yr artistiaid o Berlin, Eloise Bonneviot ac Anne de Boer sy’n gweithredu fel gardd fadarch sefydlog a phrosiect nomadig. Ers 2019, mae’r ardd wedi’i lleoli ar falconi yn Berlin. Ystyrir y prosiectau a gychwynnwyd gan The Mycological Twist fel lle i ymchwilio i’r cylch o ddirywiad ac adfywio sy’n digwydd mewn parthau o Ecoleg Dywyll.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr