Yoga NIDRA
Mae’r recordiadau sain hyn yn gyfuniad o fyfyrdod, gwaith anadl a delweddu i helpu i ddatgloi eich potensial creadigol a magu hyder wrth ddechrau ar bethau newydd. Gall dechrau ymarfer creadigol fod yn frawychus gyda hunan-barch isel, ofnau ac amheuaeth yn gohirio’r daith hudol sydd o’ch blaen. Mae’r recordiad hwn yn annog y gallu i gamu y tu allan i’ch cysur a mentro wrth ddod yn ddechreuwr eto, gan ailgysylltu â’r plentyn mewnol a delweddu’r posibiliadau cyffrous sydd ar gael. Mae’r myfyrdod yn cynnig y syniad nad oes ffordd ‘gywir’ o fod yn greadigol a bod meddylfryd ysbrydoledig yn teimlo’n wahanol i bob person unigol. Trwy’r delweddu byddwch chi’n gallu profi plymio’n ddwfn i’r meddwl isymwybod a dod yn ymwybodol o syniadau ac ysbrydoliaeth nad oeddech chi’n sylweddoli oedd gennych chi. Byddwch hefyd yn mwynhau manteision ymlacio’r myfyrdod a’r anadl a byddwch yn gorffen y sesiwn gyda hyder tawel a bodlon i ddechrau eich taith greadigol.
Mae Yoga nidra yn fath gwahanol o fyfyrdod gan nad oes ‘gwneud’ gweithredol. Mae’n ymwneud ag aros yn ymwybodol ond caniatáu i chi’ch hun ildio iddo’n llwyr. Gall fod yn fuddiol iawn i unrhyw un sydd â gorbryder, anhunedd neu orweithio! Mae gennym ni glip sain‘sut i’ sy’n esbonio’r broses o yoga nidra, yoga nidra ymlaciol a chlip sain taith dywys greadigol. Gellir gwrando arnynt yng nghysur eich cartref eich hun neu allan ym myd natur.
Nansi Marshall
Mae Nansi Marshall yn therapydd ioga ac yn adweithegydd cymwysedig ac yn sylfaenydd The Wellbeing Hub. Mae Nansi yn fedrus wrth greu gofod i chi ddod o hyd i heddwch, llonyddwch a chysur o fewn byd swnllyd a phrysur. Trwy ei hymarfer, nod Nansi yw cefnogi ac annog unigolion i gyflawni eu llawn botensial trwy ailgysylltu â’u gwirionedd. Mae hi’n credu na ddylai lles fod yn ddull gweithredu ‘un maint i bawb’ a’i nod yw cynnwys amrywiaeth o weithgareddau lles. Mae Nansi wedi ymrwymo i greu gofod diogel i unigolion ymuno â’i gilydd a mynd at iachâd mewn modd hamddenol heb unrhyw bwysau.
Mae’r recordiadau sain hyn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru.