Menu

Ymdeimlad o le

20/06/2022 - 02/10/2022

Arddangosfa Manwerthu

Dewch gyda ni ar daith o grefft gyfoes, dylunio a phrint yr haf yma yn siop MOSTYN!

Yn ein harddangosfa manwerthu ‘Ymdeimlad o le’ mae’n gasgliad wedi’i guradu o artistiaid a gwneuthurwyr sydd i gyd yn ymateb i’w hamgylchoedd trwy gydol eu gwaith.

Mae lleoliadau ffisegol a dychmygol, cynefinoedd a pherthynas â’n hamgylchedd, yn cael eu trosi’n cerameg, collage, llestri gwydr, gemwaith, printiau a gweithiau cyfrwng cymysg.

Mae’r arddangosfa manwerthu yn cynnwys gweithiau gan After Providence, Olivia Bliss, Fran Buxton, John M Fenn, Florence Makes, Rhiannon Gwyn,  h_a_b_i_t_a_t_s , Karen Howarth,  KOA Jewellery, Local Hotel Parking,  Jade Mellor, Julie Mellor, Neville Mellor,  Roz Mellor,  Rhi Moxon, Jenny Murray,  Jenny Rothwell, Tara Squibb and Heulwen Wright.

Rydym yn falch o gefnogi gwneuthurwyr annibynnol yn ein gofodau manwerthu, ac mae’r incwm a gynhyrchir yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn ein rhaglen arddangos.

Mae Mostyn yn rhan o’r Cynllun Casglu, sy’n caniatáu ichi brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o ddeuddeg mis yn ddi-log, ac mae ar gael ar bryniannau dros £50.

Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol. Gofynnwch yn y siop am ragor o fanylion.

Proffiliau a datganiadau artist

After Providence

Chelsea yw’r person y tu ôl i’r brand ‘After Providence’. Darlunydd ac artist papur ydyn nhw sydd wedi’u lleoli yn Singapore a’r Deyrnas Unedig. Mae gwaith Chelsea yn tynnu o ddyddiau araf tra adref a’r byd naturiol tu hwnt. Mae pob tŷ unigryw wedi’i wneud â llaw yn gariadus o bapur a’i arddangos y tu mewn i jariau cloch gwydr.

 

Local Hotel Parking

Mae LocalHotelParking yn artist gludwaith wedi’i dorri â llaw a brodwaith swrrealaidd wedi’i leoli ym Manceinion. Mae hi wedi’i hysbrydoli gan gynllwyn, sŵn gitâr Hawaii a hen ferched mewn siopau elusen. Mae gwaith LocalHotelParkings yn hwyl, yn fywiog ac yn drawiadol; gan ddal eich dychymyg a’ch breuddwydion gyda’i hiwmor swrrealaidd ffraeth.

Olivia Bliss

“Artist gweledol yw Olivia Bliss, sy’n arbenigo mewn gwneud printiau ac sydd hefyd yn gyfarwyddwr yr elusen gwneud printiau Carousel Print Studio, sydd wedi’i lleoli yn Sheffield.

Astudiodd Olivia BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain (Paentio a Gwneud Printiau) yn Ysgol Gelf Glasgow, gan ennill Glasgow Print Studio Prize am ragoriaeth mewn gwneud printiau, am ei sioe radd (2009).

Trwy ei gwaith mae’n archwilio tirweddau a’n cysylltiad â lle trwy gerdded, gan gynnwys topograffeg, mapiau, delweddau microsgopig ac olion uniongyrchol o’r dirwedd. Mae gan Olivia ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o brosesau gwneud printiau gan gynnwys lithograffeg, ysgythru (gyda chine colle), print mono, toriad leino a gludwaith i greu ei chelf, gan wthio’r ffiniau o fewn y technegau hyn ar yr un pryd.

Mae The Miners Walk yn lithograff carreg tri lliw, wedi’i argraffu â llaw yn Swydd Efrog. Fe’i datblygwyd o wneud Taith Gerdded y Mwynwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’n atgofus o’r tywydd gwlyb a gwyntog ar y pryd.”

Heulwen Wright

Yn Bennaf, mae Heulwen yn defnyddio powdrau gwydr a ffritiau i greu delweddau cynnil, cudd bron, a rhithiol, sy’n meithrin ymdeilad o ddirgelwch a chwilfrydedd a hefyd yn mynegi awyrgylch atmosfferig, golau a gwead llecynnau gwyllt a gwyntog ei phlentyndod yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Mwe ei gwaith yn awgrymu ein hatgofion am bobl, llefydd as amseroedd o’r gorffennol nad ydym yn gallu eu gweld, eu cyffwrdd na dychwelyd iddynt mwyach, ond eto rydym yn gallu dal i deimlo beth sy’n parhau’n gudd o dan yr wyneb. Mae hyn yn hynod berthnasol yn ei chasgliad o lestri bwrdd gyda’r teitl Tir Du, sy’n talu teyrnged i foddi pentref Capel Celyn a Chwn Tryweryn, gyda barddoniaeth wedi’i sgrin-argraffu gan ffrind I’r teulu, Rhodri Jones o’r Bala, a arferai fynychu ysgol Capel celyn yn fachgen bach ac mae ei deulu wedi ffermio’r bryniau o amgwlch y pentref ers cenedlaethau. Ganed Heulwen ar lan Llyn celyn ac fellu mae ystyr arbennig I’r lle iddi ac mae’n gobeithio bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn ei gwaith.

Julie Mellor

“Mae Julie yn eich gwahodd i “Ddod i grwydro gyda fi. Boed yn drefol neu’n goetir, arfordir neu’n caeau – dim ots. Mae cyflymder cerdded yn cyd-fynd â’ch meddwl. Mae eich golwg yn disgyn i’ch traed, mae gwrthrych bach yn dal eich llygad – darn o blisgyn hardd neu frigyn siâp anarferol”.

Gan ddefnyddio technegau a gollwyd megis castio cwyr a llosgi allan mae’r gwrthrychau hyn a gasglwyd yn cael eu trawsnewid yn fetel i greu darnau gwisgadwy a chasgladwy sy’n dathlu trysorau Natur.

Mae Julie yn ddylunydd/gwneuthurwr ymarferol sy’n cwblhau pob cam o’r broses ei hun, ac mae’n well ganddi offer analog i weithio ar gyflymder meddwl.

I gyd-fynd â’i hymarfer mae Julie hefyd yn mwynhau gweithio gyda myfyrwyr yn Ysgol Celfyddydau Creadigol Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr, lle mae’n dysgu ar y cwrs gradd Celfyddydau Cymhwysol.”

Roz Mellor

“Mae gan Roz gefndir mewn Blodeuwriaeth, gradd yn y Celfyddydau Cymhwysol (gwaith metel) a diddordeb mewn Archaeoleg sy’n uno i ffurfio’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “tacsonomeg esblygol o bethau cofiadwy talismoneg gwisgadwy”.

Disgrifia Roz ei hun fel “rhywun sy’n swmera, un sy’n synfyfyrio ac yn rhyfeddu wrth imi grwydro. Rwyf wedi fy swyno gan y pethau llai, cynnil mewn bywyd sy’n cyfrannu at dapestri cyfoethog ein byd sy’n wir ryfeddol.””

Mae gwrychoedd, dolydd, coetir a glan y môr yn datgelu trysorau bychain di-rif; dail, pennau hadau, brigau, cen, ffosilau, cregyn, gwymon. Mae hi’n casglu ac yn astudio’r cywreinbethau hyn. Mae hi’n teimlo eu bod yn ei chadw ar y ddaear ac yn gysylltiedig â natur. Gyda’u rhinweddau cyffyrddol yn cyfoethogi ei dydd.

Mae Roz yn ceisio atgofio treigl amser gyda patinas cyfoethog a graddiad lliw, sy’n esblygu yn ei gweithdy trwy dechnegau gof arian traddodiadol ac enamlo gwydrog. Mae ei hagwedd sympathetig at drin deunyddiau, dylunio, gwneud a gorffen yn adleisio ei hagwedd ystyriol a ‘wabi sabi’ tuag at ei gwaith a’i bywyd.”

John M Fenn (Liverpool Bay Hotshop)

“Mae John yn chwythwr gwydr ac yn wenynwr sy’n byw yng Ngogledd Cymru, ac mae pob llestr yn cael ei drwytho â’r mêl a gasglwyd o’i wenyn Du Cymreig brodorol.

I greu ei wydr trwythiad mêl mae John yn cyfuno’r synergeddau naturiol sy’n digwydd wrth chwythu gwydr a chadw gwenyn. O’r symudiadau llifeiriol sy’n ofynnol gan y chwythwr gwydr a’r gwenynwr, i symudiad llifeiriol naturiol y gwydr a’r mêl. Mae adwaith canlyniadol pob trwyth yn crynhoi ac yn cadw olion o’r gwenyn mewn patrymau o swigod gan sicrhau bod pob darn yn unigryw. Mae’r holl ddarnau y mae John yn eu gwneud wedi’u ffurfio’n rhydd, mae rhai o’r ffurfiau wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r cwch gwenyn ac mae eraill wedi’u haddasu o’r ffurfiau hyn a llif naturiol y defnyddiau.”

Fran Buxton

“Ostranenie: annog pobol i weld pethau cyffredin fel pethau dieithr, gwyllt neu anghyfarwydd; dad-gyfarwyddo’r hyn sy’n hysbys er mwyn ei wybod yn fwy gwahanol neu’n ddyfnach”

Fel pioden o drysorau y byddai eraill yn eu hystyried yn gyffredin ac yn amhrisiadwy, mae Fran wedi’i swyno gan ‘ostranenie’. Dod o hyd i harddwch mewn arwynebau a gwrthrychau sydd â nam neu yn amherffaith. Mae hyn yn atseinio o fewn ei holl ymarfer; ceisio herio canfyddiad y gwylwyr o’r cyfarwydd neu’r hyn a anwybyddwyd o’r blaen, yn ogystal â’r gwerth a briodolir i’r hen ffasiwn a’r hen bethau.

Gan ymateb i wrthrychau a ddarganfuwyd (yn enwedig eitemau rhydlyd) yn ogystal â’i ffotograffau ei hun o batrwm a gwead arwyneb, mae Fran yn gweithio gyda chyfryngau cymysg/tecstilau. Ei nod yw cydbwyso’r eitemau hyn â les nodwydd fanwl a phwythau gwehyddu nodwydd a chyfansoddiadau cyfrwng cymysg hiraethus; i greu darnau haenog, gweadol yn aml wedi’u treiddio â chynllwyn.

Jenny Rothwell

Mae Jenny Rothwell yn gweithio gydag alwminiwm ac arian anodiedig i greu’r ystod ysgafn a lliwgar hwn o emwaith. Mae pob darn yn ddehongliad unigryw o’i theithiau cerdded mynyddig ac arfordirol. Mae’r casgliad hwn wedi’i ysbrydoli gan ei harchwiliadau o Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.

Jade Mellor

Mae Jade Mellor yn ddylunydd-gwneuthurwr gemwaith o’r ardal wledig Swydd Gaer, wedi’i lleoli ar hyn o bryd yng Ngogledd Llundain. Etifeddodd Jade ei hoffter o wneud gan ei thad, gwneuthurwr cabinet a drawsnewidiodd Gapel Fictoraidd yn gartref teuluol, yn llawn hen bethau, chwilfrydedd a chasgliad o offer teilwng i amgueddfa. Gan dyfu i fyny yn yr amgylchiadau anarferol hyn, mewn amgueddfeydd a gweithdai y mae Jade yn teimlo’n fwyaf cartrefol.

Bwriad casgliad gemwaith Caddis yw gwarchod ac addurno, wedi’i wneud gan Jade Mellor a’i ysbrydoli gan gasys cerfluniol y pryf caddis, creadur clyfar a elwir yn “bensaer natur”.

Mae pob pryfyn caddis yn adeiladu ei annedd amddiffynnol ei hun ar waelod pyllau a nentydd trwy gasglu eu hoff ddeunyddiau naturiol i adeiladu eu hadeiledd unigryw. Mae cerrig, brigau neu gregyn sydd wedi’u didoli’n ofalus a’u trefnu’n gelfydd wedi’u rhwymo gan eu sidan gwrth-ddŵr eu hunain i greu’r tu mewn melfedaidd llyfn.

Mae Jade wedi’i swyno gan y modd y mae’r creaduriaid hyn yn addurno eu hunain i ddod yn un â’u hamgylchedd ac yn defnyddio ei hymchwil yn yr Amgueddfa Hanes Natur i greu’r casgliad gemwaith hwn fel cerfluniau gwisgadwy.

Mae pob darn wedi’i orffen â llaw yn ofalus i wneud yn siŵr bod pob gwead organig bob amser yn gyfforddus i’w wisgo, wedi’i orffen â thu mewn moethus iawn i gofleidio’r bys yn llyfn.

Neville Mellor

Gyda dros 65 mlynedd yn y fasnach yn creu gwrthrychau hardd gyda phren, mae’r saer coed Neville Mellor yn dweud iddo gael ei “eni yn y naddion”. Mae Neville yn ailymweld â thechnegau traddodiadol gan ddefnyddio offer hanesyddol o’i gasgliad rhyfeddol, teilwng i amgueddfa. Mae’r pren a’r gwrthrychau y mae’n eu defnyddio yn adrodd hanes am orffennol Lloegr. Trwy eu hail-ddychmygu fel darnau swyddogaethol ac addurniadol mae am wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd ar goll nac yn cael eu hanghofio. Mae’r meinciau a’r stolion gwladaidd hyn wedi’u gwneud â llaw gan ddefnyddio pren a adferwyd o’r amgylchedd adeiledig. Wedi’u hymgorffori yn y dyluniad, efallai y bydd tyllau, gosodiadau a marciau o ganlyniad i’w defnydd gwreiddiol fel rhan o strwythur diwydiannol. Maent yn annatod i gymeriad y darn, gan wneud pob un yn unigryw. Weithiau gall y pren fod wedi’i foddi am ei fywyd gwaith, a allai fod tua 70-100 oed. Gall canlyniadau hyn fod yn rhannau wedi’u hindreulio gan ddŵr, er enghraifft ar yr hen feinciau llwyfen Seisnig sy’n rhoi arwyneb tonnog cynnil. Neu, yn achos y dderwen ddu, y cyswllt â gosodiadau dur sydd wedi duo’r pren i arlliw glas/du dwfn. Mae Neville yn ymateb i’r deunyddiau hyn sydd wedi’u hadennill i gynhyrchu gwaith â phersonoliaeth i bara am genedlaethau.

Rhiannon Gwyn

Mae fy ngwaith yn darlunio harddwch garw y dirwedd o amgylch fy nghartref, sef pentref chwarelyddol yng ngogledd Cymru trwy ddefnyddio llechi Cymru a deunyddiau eraill lleol.Byddaf yn archwilio potensial llawn llechi trwy eu cyfuno â phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n dangos ffurfiau’r tir fel rhan o broses gylchol lle rwyf i wedi cael fy siapio’n bersonol gan y dirwedd ac yna’n ffurfio a siapio ei deunyddiau crai. Mae’n broses o ffurfio’r deunyddiau sydd wedi fy ffurfio i. Caiff y nodweddion hyn eu hadlewyrchu yn siapiau’r llechi wrth eu tanio ar wres uchel ac ym mhatrymau a lliwiau’r cerameg a grëir gyda gwydredd o lechi a deunyddiau eraill byddaf yn eu casglu fel grug a blodau’r eithin. Mae’r llechi sydd wedi eu tanio a’r gwydredd o flodau’r eithin yn cyferbynnu’n llwyr â’i gilydd ond maent yn amlygu ac ategu ei gilydd trwy adleisio eu cysylltiad â’r dirwedd. Mae casglu ac ailddefnyddio deunyddiau lleol yn ffordd newydd o weld a gwerthfawrogi’r hyn sydd o’n hamgylch. 

Florence Makes

Florence Hoy yw’r dylunydd/gwneuthurwr y tu ôl i Florence Makes ac mae wedi’i lleoli ar hyn o bryd yn Leeds. Hyfforddwyd Florence mewn cerameg yn wreiddiol ond cafodd fwy o lawenydd wrth greu’r darnau prawf papur cyn crefftio’r llestr. O ganlyniad, mae hi bellach yn gweithio’n bennaf gyda phapurau a ddarganfuwyd gan gynnwys hen fapiau Arolwg Ordnans, tocynnau rheilffordd a stampiau Prydeinig.

Ar hyn o bryd mae Florence yn archwilio thema ailadrodd yn y casgliad nwyddau chwilfrydig. Mae’r potensial y gall ailadrodd ei roi i eitem yn hynod ddiddorol; gall y gwrthrychau mwyaf elfennol esblygu i fod yn rhywbeth mawreddog, rhywbeth sy’n llawer fwy na’i statws blaenorol. Mae’n trawsnewid y di-nod a’r pethau sy’n cael eu hanwybyddu. Tra bod pob darn a grëir yn unigryw, mae ymdeimlad ysbeidiol o gynefindra i’w weld drwy’r casgliad.

h_a_b_i_t_a_t_s

Mae Greg Meade yn wneuthurwr printiau, dylunydd a ffotograffydd o Fanceinion, yn gweithredu o’i stiwdio yng nghanol Ancoats ôl-ddiwydiannol. Yn obsesiynol o ran pensaernïaeth, mae’n cynhyrchu gwaith print graffig beiddgar ar draws ystod eang o brosesau o dan ei ffugenw stiwdio Habitats.

Mae Habitats yn mynegi meddyliau am foneddigeiddio. Wrth i ffiniau dinasoedd ymledu ac ehangu maent yn ysgubo i fyny olion olaf y dirwedd dreftadaeth ddiwydiannol a chyda hynny yn gorfodi’r dosbarth gweithiol o’u cartrefi dan gochl ailddatblygu.

 

Tara Squibb

Mae Tara Squibb wedi byw ar stad Castell Powys ers bron i 30 mlynedd, lleoliad delfrydol, eithaf anghysbell yng nghanol Cymru. Mae ei serameg yn cael ei dylanwadu’n fawr gan y tirweddau amgylchynol, y byd naturiol, daeareg a diddordeb mewn prosesau gwydro a thanio anarferol. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan natur, arwynebau, gweadau, a lliwiau i greu darnau wedi’u taflu ag olwynion ac wedi’u hadeiladu â llaw, gan ddefnyddio clai crochenwaith caled yn bennaf. Ar ôl graddio o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2017 (B.A. Anrh 1af yn y Celfyddydau Cymhwysol), enillodd Tara wedyn MA gyda rhagoriaeth mewn Ymarfer Celf, gan ymchwilio i dechnegau tanio amgen ac addasu technegau gof i’w defnyddio o fewn ei gwaith.

Rhi Moxon

Wedi’i geni yn Wrecsam yng Ngogledd Cymru, graddiodd Rhi o adran Cyfathrebu Dylunio Ysgol Gelf Gogledd Cymru yn 2013, ac aeth ymlaen i astudio Printio Rhyngddisgyblaethol yn Ysgol Print Wroclaw, Gwlad Pwyl, lle dyfarnwyd ei diploma yn 2015. 

Mae gwneud printiau yn rhan fawr o arfer Rhi nid yn unig am harddwch a phosibiliadau’r dechneg, ond hefyd am ei rôl ysbrydoledig yn nemocrateiddio’r celfyddydau, gyda’i phosibiliadau ar gyfer atgynhyrchu gweithiau celf i’w dosbarthu’n ehangach.

Serigraffeg yw cyfrwng dewisol Rhi ar gyfer y posibiliadau anfeidrol y mae’n eu caniatáu yn yr haenau lliw a gwead, caiff ei denu at welededd yr inc ar y dudalen a gwastadrwydd lliw. Mae’n dangos dewis amgen cyffyrddol i’r ffurf ddigidol a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin.

Mae gwaith Rhi yn ymateb i syniadau am bobl, lle, iaith a diwylliant yn aml ar ffurf mapiau haenog, printiau, llyfrau, gydag awydd arbennig i ddal ac archwilio traddodiadau domestig a ‘hanes pobl’.

Dywed Rhi fod “Daearyddiaeth yn ffactor enfawr yn fy ymarfer; trwy fy ngwaith rwy’n ceisio dal hanfod lle, neu o leiaf, fy mhrofiad ohono. Oherwydd hyn, mae teithio ac ymchwil yn ganolog i fy ngwaith. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gall darlunio a deunydd printiedig bontio’r bwlch rhwng diwylliannau ac felly mae fy ymarfer yn aml ar ffurf llyfrau darluniadol, mapiau a ryseitiau, wedi’u hysbrydoli gan fy nheithiau a’m darganfyddiadau fy hun”.

 

Koa Jewellery

Mae ‘Koa Jewellery’ wedi’i hysbrydoli gan gariad at yr arfordir a chymuned greadigol ffyniannus y DU. Wedi’u lleoli ger ymyl y dŵr , yn Sili, De Cymru. Mae eu lleoliad yn rhoi lle iddynt oedi, gwerthuso a mwynhau bywyd ychydig yn fwy. Maent yn gobeithio cyfleu’r teimlad hwn ym mhob darn o emwaith wedi’i wneud â llaw, gan adlewyrchu’r arfordir a’i holl liwiau a ffurfiau.
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn ethos allweddol o ‘Koa Jewellery’. Mae pob darn o emwaith yn cael ei wneud gan ddefnyddio piwter sy’n gynnwys tun sydd wedi’i ailgylchu yn wreiddiol o nwyddau trydanol nas defnyddiwyd ac wedi’u taflu.

Karen Howarth

Mae Karen Howarth Ceramics Jewellery yn gasgliad cyfoes, lliwgar wedi’i wneud o slip castio porslen du, wedi’i haenu â slip addurno gwyn ac wedi’i orffen â decal ceramig ansawdd uchel. Mae’r casgliad gemwaith yn cynnwys mwclis, clustdlysau, tlysau dillad a dolennau llawes mewn pedwar cynllun gwahanol. Mae pob eitem yn cael ei thanio i dymheredd uchel a’i orffen yn hyfryd i greu darn cryf ond ysgafn a gwisgadwy o emwaith celf geramig liwgar.
Mae’r dyluniadau ar gyfer y gemwaith wedi’u cymryd o waith mwy yr artist sydd wedi gosod ar wal ac maent yn cadw’r manylder ac ansawdd y gwaith celf gwreiddiol. Mae Karen yn gweithio o’i stiwdio gardd ar gyrion y Yorkshire Pennines, tirwedd sy’n gyferbyniad o weundir agored eang, bryniau a dyffrynnoedd a choetir gydag afonydd troellog. Mae’r gwaith wedi’i ysbrydoli’n fawr gan gariad at natur a’r llinellau a’r patrymau o fewn y dirwedd.

Jenny Murray

Wedi hyfforddi mewn serameg yn Llundain, ysymudais i’r ardal 20 mlynedd yn ol. Rwy’n byw yn Dyffryn Clwyd, yn agos i Ddinbych, mae fy stiwdio wedi ei leoli yng nghanol fy nghartref – yn llythrennol yr ystafell fwta! Efallai mai hyn sy’n diffinio’r darnau domestig bach rwy’n ei wneudyn bennaf. Mae’r gwaith hwn yn glai sy’n cael ei wneud olwyn-thaflu, ac yna’i addurno a llaw, yn adlewyrchu natur a’r tirwedd o gwmpas ble gaf ysbrydoliaeth; addurnol, ond gyda’r bwriad o fod un ymarferol, maent hefyd yn saff i’w defnyddio yn y peiriant golchi llestri. 

Ochr yn ochr a’m gwaith taflu, rwyf hefyd yn gwneud darnau mwy. Mae’r rhain yn cael eu adeileu a llaw ac yn cymryd ffurf fwy haniaethol o addurno – unwaith eto yn adlewyrchu tirwedd lleol a thywydd dramatig fel ysbrydoliaeth. Yma, ryw’n cael y rhyddid i ddefnyddio’r clai mewn ffordd fwy mynegiannol ac arbrofi gyda deunyddiau a geir yn lleol, rwy’n aml yn defnyddio yn y broses gwneud.

Gwybodaeth i ymwelwyr

12 Stryd Vaughan
Llandudno LL30 1AB

Amseroedd Agor
Dydd Mawrth – Dydd Sul
10:30am – 5.00pm

Mynediad am Ddim

Ymweld â gwybodaeth