Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Ymwelwch

MOSTYN

12 Stryd Vaughan
Llandudno LL30 1AB
Amseroedd Agor
Dydd Mawrth – Sadwrn
10.30yb – 4:30yp

Mynediad am Ddim

Arwyddion brown

Mae arwyddion brown ar y ffordd ddynesu i’r dref sy’n eich cyfeirio at barcio yn yr Orsaf Reilffordd. Sylwch nad yw’r arwyddion hyn yn pwyntio at yr oriel ond yn hytrach at faes parcio’r orsaf.

Fodd bynnag, mae un arwydd brown i gerddwyr ger yr orsaf sy’n eich arwain i’r cyfeiriad cywir.

Ar y ffordd

Mae Llandudno dim ond tair milltir oddi ar wibffordd arfordirol yr A55. Cymerwch droad yr A470 ar Gyffordd 19, gan ddilyn yr arwyddion am Landudno.

Parcio

Mae lle parcio arhosiad byr yn Asda a Pharc Llandudno ar y ffordd i mewn i’r dref ac ar lawer o’r strydoedd o amgylch yr oriel. Mae parcio ar y stryd yn gyfyngedig ond mae lleoedd parcio Talu ac Arddangos ar gael ar lan y môr. Mae yna hefyd le parcio Talu ac Arddangos yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno ar diwedd Stryd Vaughan, dim ond ychydig funudau i ffwrdd ar droed.

Ar y bws

I gael gwybodaeth am fysiau lleol sy’n gwasanaethu Llandudno, ewch i dudalen Trafnidiaeth Gyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu Traveline

Ar y trên

Mae gorsaf drenau Cyffordd Llandudno ar y prif lwybr trên rhwng Llundain a Chaergybi. Mae Llandudno dim ond 3 milltir oddi yno ar drên lleol. Gallech hefyd neidio ar fws neu gymryd tacsi o Gyffordd Llandudno. Mae’r safle bws a’r safle tacsis ychydig y tu allan i orsaf Cyffordd Llandudno. Mae MOSTYN 200 metr o Orsaf Drenau Llandudno – yn syth ymlaen ar hyd Stryd Vaughan. Amseroedd trenau.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr