Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

MiniPrint Cymru | Wales

14 Mawrth 2026 - 2 Mai 2026

Arddangosfa

Mae MiniPrint Cymru | Wales yn fenter sydd wedi’i chynllunio i godi proffil gwneud printiau ledled Cymru drwy gydweithrediad sefydliadau partner rhanbarthol: Mostyn (Gogledd), Gweithdy Argraffu Abertawe (De), Gwneuthurwyr Printiau Aberystwyth (Gorllewin) a’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol (Dwyrain).

Wedi’i ddatblygu o brosiect peilot yn 2023 dan arweiniad Gweithdy Argraffu Abertawe, uchelgais MiniPrint Cymru | Wales yw creu digwyddiad cynaliadwy, bob dwy flynedd ar draws Cymru, gyda sefydliadau partner rhanbarthol yn cynnal y rhaglen a’r arddangosfa ar sail cylchdro.

Cefnogir MiniPrint Cymru | Wales gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Gan adeiladu ar y llwyddiant yn 2023, nod MiniPrint Cymru | Wales yn 2025/26 oedd datblygu’r fenter ymhellach drwy weithio mewn partneriaeth, a hyrwyddo hygyrchedd gwneud printiau ar raddfa fach ledled Cymru.

Er gwaethaf rhwystrau daearyddol Cymru, sy’n aml yn atal ymgysylltu a chydweithio, rydym yn meithrin perthnasoedd â stiwdios argraffu a sefydliadau celfyddydol, ac yn cysylltu â channoedd o artistiaid a gwneuthurwyr printiau ledled y wlad.

Dan arweiniad Gweithdy Argraffu Abertawe yn y de a’r Academi Frenhinol Gymreig yn y gogledd, mae MiniPrint Cymru | Wales wedi cael cefnogaeth fawr yn y gorllewin a’r dwyrain gan Wneuthurwyr Printiau Aberystwyth a’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn Wrecsam, sy’n bwriadu cymryd yr awenau yn 2027 i ddatblygu’r cyfle dwyflynyddol hwn ymhellach. Mae cryfder y bartneriaeth gydweithredol hon wedi rhoi llais i MiniPrint Cymru | Wales; fodd bynnag, mae’r artistiaid a’r gwneuthurwyr printiau ledled Cymru a ymatebodd i’n galwad ac a gyflwynodd waith wedi dilysu ein dyheadau i wneud hwn yn ddigwyddiad cylchol cynaliadwy a hyfyw.

Gan ddefnyddio uchafswm dimensiynau o 10cm x 10cm ac argraffu ar bapur sy’n mesur 18cm x 18cm, mae’r fformat wedi galluogi artistiaid i greu gwaith celf mewn bron unrhyw leoliad. Trefnwyd nifer fach o weithdai cymunedol ym mhob rhanbarth i annog cyflwyniadau gan ddechreuwyr llwyr a gwneuthurwyr printiau sy’n datblygu. Roedd hyn yn cario ethos y prosiect ymlaen i gefnogi cyfranogiad mewn gwneud printiau, i feithrin artistiaid o Gymru, ac i roi cyfleoedd iddynt dyfu a mireinio eu sgiliau.

Yn wir, anogodd hygyrchedd ac amlochredd y cyfrwng gyflwyniadau gan grŵp amrywiol o artistiaid ledled Cymru, yn wneuthurwyr printiau sy’n dod i’r amlwg a phroffesiynol fel ei gilydd. Ar adeg dethol, fodd bynnag, barnwyd yr holl gyflwyniadau’n ddienw gan ddefnyddio’r un meini prawf.

Roedd gan ein Panel Dethol y dasg fwyaf heriol o ddewis 270 o brintiau bach i’w harddangos, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am yr amser a gymeront i ystyried y nifer enfawr o gyflwyniadau, eu hymrwymiad i’r broses, a’u proffesiynoldeb. Mae’r gwaith celf a ddewiswyd yn dyst i gryfder ac ehangder creadigrwydd a doniau yng Nghymru.

– Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Prosiect

Noder y bydd y Gofod Prosiect ar gau ar y dyddiadau canlynol, ac ni fydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld: Dydd Gwener 27 Mawrth 2026, Dydd Mercher 1 Ebrill 2026, Dydd Mercher 8 Ebrill 2026, Dydd Gwener 17 Ebrill 2026.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr