Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Ynghylch

Celf ryngwladol. Gwreiddiau Cymreig.

Mae Mostyn yn oriel gelf gyhoeddus yn Llandudno, Gogledd Cymru, gyda rhaglen o arddangosfeydd celf gyfoes sy’n cyfateb i’r rhai mewn canolfannau celf fyd-eang bwysig.

Ychydig funudau o orsaf Llandudno a’r traeth, mae ffasâd brics coch Edwardaidd, orielau troad y ganrif a choncrit modern wedi’u cyfuno o fewn chynllun pensaernïol trawiadol arobryn.

Dewch i gael sgwrs gyda’n staff croesawgar, mwynhewch weithgareddau creadigol, porwch yn ein siop hardd ac ymwelwch â’n caffi llachar ac awyrog. Mae ein hadeilad yn gwbl hygyrch ac mae mynediad AM DDIM.

Mae rhywbeth i bawb ym Mostyn.

Rhaglen Arddangosfeydd

Mae syniadau mawr yn digwydd yma.
Nid oes gan Mostyn gasgliad parhaol ac yn hytrach mae’n dangos rhaglen dymhorol o arddangosfeydd. I ddarganfod mwy am ein beth sydd ymlaen nawr, gweler yma , ac i gael gwybodaeth am ein harddangosfeydd blaenorol gweler yma.

Ymgysylltu, Dysgu a Chynhwysiant

Agored i ddehongliad. Agored i syniadau. Agored i bawb.
Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth o weithgareddau creadigol i’n hymwelwyr eu mwynhau ym Mostyn neu gartref sydd wedi’u hysbrydoli gan ein rhaglen arddangosfeydd.

Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, ieuenctid, cymunedol a grwpiau anghenion arbennig.

Siop

Siopa wedi’i ysbrydoli gan gelf, gan ein cymuned o grewyr.
Mae ein Siop steilus yn gwerthu amrywiaeth eang o emwaith hardd, cerameg, printiau, llestri gwydr, llyfrau, cylchgronau a chardiau sydd wedi eu gwneud gyda chariad yng Nghymru a thu hwnt. Dyma’r lle delfrydol i ddod o hyd i’r anrheg arbennig hwnnw neu drît arbennig i chi’ch hun.

Caffi

Coffi a chacen gyda golygfa o’r môr … wrth fwrdd 3.
Mae ein Caffi yn ffordd hyfryd i orffen eich ymweliad. Mwynhewch goffi, cacen a chynnyrch lleol ardderchog wedi’u rhostio’n lleol, gyda digonedd o opsiynau di-glwten a fegan (ac efallai golygfa o’r môr!)

Llogi Gofod

Ysbrydoliaeth greadigol wedi’i darparu gan Mostyn.
Wrth ymyl y brif fynedfa’r adeilad, mae’r Gofod Prosiect, sef ystafell hyblyg a chyffrous sydd ar gael i’w logi unwaith neu’n rheolaidd. Mae’n ystafell amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai a sgyrsiau.
Mae archebion ar gael trwy gydol y flwyddyn ar sail y cyntaf i’r felin.

Gwybodaeth ystafell
Mae’r ystafell yn ofod yn eithaf mawr y gellir ei addasu ar gyfer eich digwyddiad. Gall yr ystafell cael ei ddarparu ar gyfer 20+, yn dibynnu ar gynllun y byrddau a’r cadeiriau sydd eu hangen. Mae gennym WIFI ar gael am ddim hefyd.
Mae’r ystafell wrth ymyl mynedfa flaen yr adeilad, drws nesaf i ddau doiled anabl a lifft sy’n mynd i fyny i’r caffi.
Mae arlwyo ar gael drwy ein caffi. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected]

Prisiau (gan gynnwys TAW)
Mae modd llogi’r ystafell o fewn yr oriau 10:30yb – 4yp, Dydd Mawrth – Dydd Gwener.
Rydym yn cynnig gostwng cost llogi ar gyfer elusennau (mae angen rhif elusen gofrestredig).
Hanner diwrnod- £36
Diwrnod llawn- £72
Taflunydd- £12

Anfonwch e-bost i [email protected] am ffurflen archebu. Os hoffech drafod unrhyw ofynion mynediad, mae croeso i chi roi galwad i ni 01492 879201.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr