Mae ein Gofod Prosiect yn Oriel Mostyn yn lleoliad hyblyg, bywiog a hygyrch. Mewn lleoliad cyfleus ychydig oddi ar y brif fynedfa, mae’n ofod aml-swyddogaethol sy’n ddelfrydol ar gyfer cynnal digwyddiadau, cyfarfodydd, gweithdai, sgyrsiau, a mwy.
Mae’r ystafell fawr yn agos at ein toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod a’r lifft, sy’n rhoi mynediad uniongyrchol i’n Caffi trwyddedig croesawgar. Mae’r ystafell ar gael i’w llogi am ddiwrnod llawn (hyd at 6 awr) neu hanner diwrnod (hyd at 3 awr).
Gellir aildrefnu ac addasu’r ystafell i weddu i’ch anghenion, gyda chynhwysedd yn amrywio yn dibynnu ar natur eich archeb. P’un a oes angen lle gwag arnoch ar gyfer ymarfer dawns neu am drawsnewid yr ystafell gyda’ch gosodiadau eich hun, gallwn ddarparu ar eich cyfer chi. Ar gyfer sgyrsiau, gweithdai, neu gyfarfodydd, gallwn ddarparu byrddau a chadeiriau yn y cynllun sydd orau gennych (gan ddarparu ar gyfer 20+ o bobl gyda byrddau a chadeiriau). Mae cymorth technegol ac offer clyweledol digidol hefyd ar gael i’w llogi ar gais.
Ein horiau agor yw 10:30yb i 4:30yp. Os hoffech archebu lle y tu allan i’r oriau hyn, cysylltwch â’n tîm am gymorth.
Mae Wi-Fi am ddim wedi’i gynnwys. Os oes angen arlwyo ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r Caffi yn uniongyrchol ar [email protected] am fwy o fanylion.
I fwrw ymlaen ag archeb, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Dim ond ar ôl cyflwyno’r ffurflen a derbyn e-bost cadarnhau gan Mostyn y dylid talu am logi ystafell. Bydd taliadau a wneir heb gadarnhad ymlaen llaw yn arwain at ganslo.
Am delerau ac amodau llawn, cyfeiriwch at y ddogfen hon.