Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Gweledigaeth a gwerthoedd

Ein Gwerthoedd Brand

  • Cefnogi rhagoriaeth: dangos y gelf gyfoes ryngwladol orau, a’r gwaith gorau gan artistiaid, crefftwyr a gwneuthurwyr rhanbarthol, ym Mostyn.
  • Denu a hudo: annog trafodaeth a myfyrdod ar sut a pham y mae celf gyfoes yn berthnasol i’n bywydau.
  • Hyrwyddo cynwysoldeb: bod yn groesawgar, yn hygyrch a darparu lle i bob llais.
  • Cydweithio: rhannu Mostyn a gwerth celf gyfoes y tu hwnt i’n hadeilad trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill yn ein cymunedau.
  • Gweithredu gydag Uniondeb: hyrwyddo arferion gwaith cynaliadwy a moesegol a chyfleoedd creadigol i eraill.
  • Eirioli: cefnogi’r iaith Gymraeg a’r sector diwylliannol Cymraeg yn frwd.

Ein Gweledigaeth

  • I gynhyrchu arddangosfeydd celf gyfoes eithriadol ac o bwys rhyngwladol sy’n anelu at gynrychioli safbwyntiau amrywiol ar fywyd cyfoes.
  • I ymgysylltu, ysbrydoli a chyffroi ein cynulleidfaoedd, trwy ein harddangosfa uchelgeisiol, ein rhaglenni dysgu a digidol.
  • I ddarparu amgylchedd diogel, cynhwysol, hygyrch a chroesawgar i rannu celf gyfoes ac agor deialog gyda phawb.
  • I gefnogi a hybu’r iaith Gymraeg yn angerddol fel iaith fodern o greadigrwydd ac arloesedd.
  • I feithrin a hyrwyddo artistiaid ac ymarferwyr creadigol Cymreig a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Bod yn sefydliad gwydn, amrywiol a chynaliadwy sy’n cyfrannu at wead diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Cymru.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr