Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Caffi

I fyny’r grisiau ym Mostyn mae ein ‘Caffi Oriel’ llachar mawr, lle gwych i fwynhau amrywiaeth ardderchog o fwyd a diodydd, gan gynnwys coffi wedi’i rostio’n lleol gwych. Mae’r fwydlen ffres, ysgafn yn cynnwys cawliau, saladau, brechdanau a seigiau Asiaidd Canolog arbenigol ynghyd ag ystod eang o gacennau gwych, gan gynnwys digonedd o ddewisiadau fegan a heb glwten. Mae’r caffi hefyd wedi’i drwyddedu ac yn gwerthu cwrw a gwin.

Yn gwbl hygyrch, mae digon o le i bygis a chadeiriau olwyn, gyda golygfeydd i’r môr o’r ffenestri bae hyfryd. Dyma’r lle delfrydol i ymweld â theulu, cwrdd â ffrindiau, cynnal cyfarfodydd anffurfiol, gwneud ychydig o waith mewn heddwch neu gael seibiant perffaith.

Mae’r caffi yn croesawu ymholiadau ynghylch llogi preifat, achlysuron arbennig a digwyddiadau gyda’r nos.

Sylwadau ymwelwyr:

  • ‘Bwydlen fendigedig gyda seigiau diddorol.’
  • ‘Wedi syfrdanu’n llwyr gan ansawdd y bwyd a’r gwerth am arian.’
  • ‘Coffi gwych. Staff eithriadol o neis.’
  • ‘Caffi gorau yn y dref!’

I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw bwrdd ac i archebu lle ar gyfer grŵp ffoniwch 01492 879201 neu e-bost [email protected] yn ystod oriau agor.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr