Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Hanes

Mae hanes hynod ddiddorol i’r adeiladau sydd bellach yn gartref i Mostyn.

Roedd y Fonesig Augusta Mostyn yn gefnogwr brwd o’r celfyddydau ac yn cydnabod bod
angen oriel a gofod ar Landudno i gynnal dosbarthiadau celf a thechnegol er budd y bobl
leol. Cwblhawyd yr orielau yn 1901, ac o’r dyddiau cynnar hyn, roedd Mostyn yn ofod
creadigol a chymdeithasol, yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, darlleniadau a
nosweithiau cerddorol ochr yn ochr â rhaglen o arddangosfeydd a dosbarthiadau, hyd at ei
marwolaeth ym 1912.

Parhaodd Mostyn i chwarae rhan bwysig yn Llandudno, ac ar wahanol adegau bu’n
fferyllydd, yn siop groser, yn adwerthwr dodrefn a hyd yn oed yn glwb reiffl – saethwyd
gynnau y tu mewn i’n horielau! Roedd yn neuadd ymarfer yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar
gyfer y Corfflu Hyfforddi Gwirfoddolwyr, ac yn gartref i ffoaduriaid o Wlad Belg o 1914-19.
Roedd yn ‘Donut Dugout’ yn yr Ail Ryfel Byd, gan ddarparu gofod cymdeithasol a blas o
gartref i filwyr Americanaidd a oedd wedi’u lleoli yn y rhanbarth. Rhwng 1946 a 1979,
Wagstaff's oedd hi, siop gerddoriaeth ac ystafell arddangos adnabyddus.

Wedi hynny, gwnaed gwaith adfer ac agorodd Oriel Mostyn ym mis Awst 1979, gan barhau i
ddangos arddangosfeydd tan 2007 pan ymgymerodd yr adeilad â gwaith ailgynllunio
sylweddol, gan ymestyn ac adnewyddu’r orielau i’w gwedd heddiw. Mae’r adeilad wedi
ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Medal Aur Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol
Cymru a gwobr RIBA.

Ceir rhagor o fanylion am ein hanes yma dolen.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr