Mae’r rhaglen dysgu yn cynnig cyfleoedd creadigol i’n cymunedau ar bob adeg o fywyd, o weithdai i deuluoedd a phlant, sgyrsiau, teithiau ac adnoddau addysgol.
Rhan annatod o’n rhaglen yw dod â chelf a chymunedau ynghyd trwy ein harddangosfeydd a’n prosiectau cymdeithasol. Trwy ddarparu cyfleoedd i gyfranogi a chydweithio, nod ein prosiectau yw gwella mynediad i gelf gyfoes a chreu gofod i Mostyn a’n cymunedau ddysgu oddi wrth ein gilydd.
I ddarganfod mwy am raglenni dysgu Mostyn cysylltwch â’r Tîm Dysgu: [email protected]
Dysgu digwyddiadau
-
Ioga oriel gyda Bryony Williams
16 Ionawr 2025 16:30 - 17:30
-
Babi Brahms gyda Helen Wyn Pari yn Oriel Mostyn
24 Ionawr 2025 10:30 - 11:30