Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim / Oriau Dyma ein horiau agor dros y Nadolig

Menu

Paul Eastwood: Dad-ddarlleniadau

14 Mawrth 2026 - 20 Mehefin 2026

Arddangosfa

Paul Eastwood, Unreadings (production shot)

Mae Dad-ddarlleniadau yn cyflwyno corff newydd o waith gan yr artist Paul Eastwood, sydd wedi’i leoli yng Nghymru, sy’n archwilio iaith fel deunydd a safle brwydrau. Gan dynnu ar ei brofiad bywyd fel artist dwyieithog dyslecsig a niwrowahanol, mae Eastwood yn trawsnewid cam-gyfathrebu, camddarllen, camsillafu a cham-ynganu yn strategaethau creadigol. Mae’r arddangosfa’n dwyn ynghyd weithiau ar bapur, cerflunio, delwedd symudol a sain i ymchwilio i sut mae iaith yn llunio hunaniaeth, cof a pherthyn. Drwy ddatgelu’r llafur, y negodi a’r ansicrwydd sydd wedi’i wreiddio mewn ysgrifennu, mae Dad-darlleniadau yn gwahodd gwylwyr i ystyried sut mae ystyr yn cael ei adeiladu, ei amharu a’i ail-greu.

Mae’r gwaith newydd hwn, a gyflwynir yn Oriel Mostyn, yn parhau ag arfer Eastwood o weithio gyda chydweithwyr hirdymor a rhai newydd: Samuel Barnes, cyfansoddwr; Dr Angharad Harrop, coreograffydd; Eilir Pierce, cyfarwyddwr ffilm; a Dr Sara Lewis Wheeler, darlithydd a bardd.

Artist profiles and statements

Paul Eastwood

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Yale, Wrecsam (2003–2004), Wimbledon School of Arts, Llundain (2004–2007), ac Royal Academy Schools, Llundain (2011–2014). Ers dychwelyd i Gymru, mae wedi ennill Gwobr Gelf agoriadol NOVA (2017) ac wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd ledled Cymru, Lloegr ac Ewrop. Mae’r rhain yn cynnwys sioe unigol yn Oriel Chapter, Caerdydd (2019), yn ogystal ag arddangosfeydd grŵp yn Tŷ Pawb, Wrecsam, ac Oriel Mostyn, Llandudno (2023). Yn 2020, ymgymerodd â phreswyliad tair mis fel Cymrawd Creadigol Ysgol Cymru yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, ac yn 2023–2024 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Cymru Fenis iddo.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr