Arddangosfa Manwerthu

Y CAE RAS, Fonted
Y Gwanwyn yma mae ein harddangosfa fanwerthu “Ysgrifennu” yn cyflwyno casgliad wedi’i guradu o artistiaid a gwneuthurwyr sy’n defnyddio’r gair ysgrifenedig yn eu gwaith. O gerddi a geiriau caneuon i ddywediadau ac idiomau, mae’r arddangosfa’n ddathliad o iaith mewn celf, print, gemwaith a chrefft gyfoes.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau gan: Buddug / Charlotte Hepburn / Driftwood Designs / Ffŵligans / Fonted / Four Letter Studio/ Gareth Williams / Niki Pilkington / Rebecca F Hardy / Story & Star
Drwy gefnogi crewyr annibynnol yn ein mannau manwerthu, rydych hefyd yn cyfrannu at ein rhaglen arddangosfeydd, gan fod yr holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn ein rhaglen.
Mae prynu celf yn hawdd ac yn fforddiadwy gydag Ein Celf. Cewch rannu cost prynu’r celfwaith dros ddeg mis, a hynny’n gwbl ddi-log. Nid oes angen talu blaendal. Ewch i’n proffil Ein Celf am fwy o fanylion.
Mae Ein Celf yn fenter Creative United a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Credyd yn amodol ar statws a fforddiadwyedd. Mae telerau ac amodau ar waith.
Artist profiles and statements
Buddug

Mae Buddug (enw llawn Buddug Wyn Humphreys) yn ddylunydd-wneuthurwr, yn wreiddiol o Eryri yng Ngogledd Cymru, ond bellach yn byw yn y brifddinas gyda’i theulu.
Mae ei gwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei magwraeth Gymreig—trwy lenyddiaeth, tirwedd a diwylliant—sy’n ysbrydoli’r straeon y mae’n integreiddio i’w gemwaith a’i gwrthrychau.
Yn gyntaf, mae ei gwaith yn darlun neu collage. Mae hi’n cadw llawer o lyfrynnau bach a llyfrau braslunio, gan ddogfennu syniadau – dyddiadur yn casglu geiriau, dyfyniadau, toriadau cylchgronau, gwrthrychau, delweddau; unrhyw beth sy’n ennyn ei chwilfrydedd.
Mae ei holl ddyluniadau a delweddaeth wedi’u cyfuno â’i chariad at lawysgrifen. Mae hi wedi’i hysbrydoli gan lythrennu â llaw hen ffasiwn mewn pen ac inc, ac sut gall llythrennu weithredu fel addurn yn ogystal â phŵer y geiriau eu hunain.
Mae ei gwaith darlunio yn dod yn brintiau a chardiau cyfarch ac ar achlysuron eraill mae hi’n tynnu lluniau gan ddefnyddio enamel, techneg sy’n cynnwys toddi gwydr i fetel, yna’n cael ei wneud yn emwaith neu’n wrthrychau ar gyfer y cartref.
Four Letter Studio

Four Letter Studio yw Carl D Jones – artist o Gymro, Swydd Amwythig, sy’n arbenigo mewn celf dwdl wreiddiol a darlunio inc haniaethol, gyda llythrennu a geiriau.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn dylunio graffig, mae ei waith yn archwilio rhythm, ailadrodd a digymelldeb – yn aml wedi’i ysbrydoli gan bensaernïaeth, diwylliant poblogaidd, llyfrau a cherddoriaeth.
Mae Carl yn credu bod iaith yn cario rhythm ac emosiwn: ‘Beth rwy’n ei weld? Rwy’n gweld llyfrau, llyfrgelloedd. Adeiladau, pensaernïaeth. Rwy’n gweld pobl. Cerddoriaeth, recordiau finyl. Rwy’n clywed curiad ailadroddus drwm, sain syntheseisydd. Ac rwy’n gweld geiriau. Mae hyn i gyd yn ysbrydoli fy nghelf a’r hyn rwy’n ei argraffu, ei luniadu a’i greu. Ac rwy’n credu’n gryf bod rhegi di-ymosodol yn dda ar gyfer lles meddyliol’.
Mae pob gwaith celf wedi’i dynnu â llaw gan ddefnyddio leininau mân, gwneud printiau, gwasg llythrennau a marcwyr, gan wneud pob darn yn gwbl unigryw.
Charlotte Hepburn

Yn wreiddiol o Fanceinion ac yn byw bellach yng nghefn gwlad Cymru, mae Charlotte yn creu ei phrintiau risograff lliwgar ochr yn ochr â magu ei phlant.
Mae Charlotte wrth ei bodd â lliw gan gredu yn y pŵer sydd gan liw i effeithio ar ein hwyliau a’n hegni. Mae hi’n ddyslecsig ac mae ganddi ADHD, mae hi’n disgrifio ei hun fel “mae fy ymennydd yn lliwgar, yn anhrefnus, ac yn neidio ymlaen i’r syniad nesaf bob amser, ac mae fy ngwaith yn tueddu i adlewyrchu hynny.” Mae hi’n cofleidio’r amherffeithrwydd y gall y broses risograff ei gynhyrchu, mae pob lliw wedi’i argraffu ar wahân, felly mae pob print yn dod allan ychydig yn wahanol: amherffaith, mynegiannol, ac yn llawn personoliaeth.
Daw ysbrydoliaeth o ymadroddion a dywediadau Cymraeg y mae hi’n eu clywed sy’n aros yn ei meddwl. Mae hi’n cyfuno’r geiriau hyn â chymeriadau retro, siapiau hiraethus a phalet lliw neon i greu ei phrintiau.
Driftwood Designs

Sefydlwyd Driftwood Designs yn 2012 gan Lizzie Spikes a Becky Barratt.
Crëir pob dyluniad gan Lizzie a hyfforddodd fel darlunydd a senograffydd. Mae Lizzie yn aml yn gwneud cynfasau o bren wedi’i ailgylchu a broc môr, ac arwynebau papur gludwaith. Mae’r siapiau, y ffurf a’r gweadau anwastad yn ysbrydoli ac yn barod i dderbyn yr inciau hylif a’r paent a ddefnyddir.
Mae’r Gymraeg yn ymddangos yn aml yng ngwaith Lizzie, mae ganddi ddiddordeb mawr mewn dehongli geiriau, lleoedd a theimladau i eraill trwy ei gwaith celf.
Ffŵligans

Fonted

Mae Julie Bourner wedi cael gyrfa hir mewn ffotograffiaeth briodas gyfoes a phortreadu plant. Mae hi bellach yn gweithio ochr yn ochr â’i gŵr yn rhedeg eu cwmni collage ffotograffig ar-lein ‘Fonted’, o’u cartref yn Llandudno.
Ar ôl symud i Landudno bedair blynedd a hanner yn ôl, nid oedd yn hir cyn i Julie, gyda’i llygad am fanylion, ddechrau tynnu lluniau o arwyddion ac enwau’r gwestai a’r adeiladau hardd yn y dref lan môr Fictoraidd hon.
Tynnir ffotograffau o’r enwau naill ai yn eu cyfanrwydd neu mewn talpiau bach – yna caiff y llythrennau unigol eu tocio’n sgwâr a’u golygu. Cedwir craciau, rhwd a pharaffernalia yn gyfan gan roi gwir ddilysrwydd i’r llythyrau.
Mae’r delweddau wedi’u hargraffu ar bapur celfyddyd gain, wedi’u gosod ar fwrdd mownt dwfn, di-asid.
Gareth Williams

Mae Gareth yn ddylunydd ac yn wneuthurwr printiau sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, yn cynhyrchu printiau sgrin a leino rhifyn cyfyngedig, wedi’u tynnu â llaw yn ogystal â chelf addurniadol wedi’i hysbrydoli gan gelf bop, pync, ffair, a steiliau tatŵ hen ffasiwn.
Wedi’i hyfforddi’n wreiddiol fel darlunydd, mae Gareth wedi treulio’r 33 mlynedd diwethaf yn gweithio fel dylunydd graffig, yn golygu celf, ac yn dylunio rhai o gylchgronau beiciau modur personol mwyaf eiconig y DU – yn ogystal â llawer o gyhoeddiadau eraill.
Dychwelodd Gareth i wneud printiau yn 2023 fel gwrthwenwyn analog i’w ddiwrnod gwaith digidol, ond daeth yn obsesiwn llawn amser yn gyflym. Ei nod yw cadw ei broses mor ddigidol â phosibl. Mae printiau’n dechrau fel toriadau leino bach sy’n ymgorffori teipograffeg o gasgliad o lythrennau bloc pren hynafol. Mae llinellau cerfiedig y leino yn mynd yn fwy gorliwiedig pan gânt eu chwyddo ar gyfer printiau sgrin, mae hyn yn rhoi ei gymeriad unigryw ei hun i bob dyluniad.
Niki Pilkington

Mae Niki yn ddarlunydd o Gymru sydd wedi symud yn ôl i Gymru yn ddiweddar ar ôl byw a gweithio ym Mharis, Efrog Newydd, Los Angeles a Llundain.
Gan gynhyrchu darluniau ffasiwn lawn egni, wedi’u hysbrydoli gan dueddiadau, sy’n cyfeirio’n ôl at ei etifeddiaeth Gymreig gyda defnydd o ymadroddion ac idiomau Cymraeg, mae ei steil chwareus ond manwl iawn yn deillio o gariad at wneud bywyd ychydig yn fwy breuddwydiol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar liw, dyfyniadau, ffordd o fyw a ffasiwn. Mae hi wedi bod yn ddarlunydd llawn amser ers graddio o’r brifysgol gyda gradd BA Ddosbarth 1af yn Llundain yn 2009.
Rebecca F Hardy

“Mae’r cydbwysedd rhwng rhy ychydig a gormod, yr hyn sy’n bleserus yn weledol ac anhrefn llwyr, yn rhywbeth rwy’n chwarae ag ef yn gyson.”
Mae’r corff gwaith cyfredol hwn yn cyflwyno gweithrediadau cynnil o haenau a datganiadau uchelgeisiol o liw a ffurf. Mae’r ffurfiau haniaethol yn deillio o’m hastudiaeth a’m dealltwriaeth fy hun o fy ymennydd dyslecsig.
Rwy’n artist gweledol amlddisgyblaethol sy’n byw yng Ngogledd Cymru; fy ngwaith yw archwilio deunyddiau a pherthnasoedd rhwng arwyneb a gwrthrych, lliw, haenau a phatrymau. O luniadau i brintiau sgrin, ffotograffiaeth, fideo, celfyddyd fyw, ffurfiau cerfluniol a gosodiadau.
Story & Star

Clare Collinson yw’r gemydd y tu ôl i Story & Star.
Wedi’i leoli yn Colwinston, De Cymru, mae Clare yn gweithio yn bennaf mewn arian, papurau printiedig a resin, mae pob darn o emwaith yn cael ei chreu yn unigol â llaw ac felly’n unigryw. Mae ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith yn cael ei dynnu o ddarluniau, printiau leino a’r nifer fawr o dwdlai a lluniau a gasglwyd yn ei llyfrau braslunio.
Wedi ysbrydoli gan straeon tylwyth teg ac adrodd straeon; fel merch fach, carais Clare y straeon amser gwely n a’i hoff lyfrau oedd y rhai oedd wedi cael ei basio i lawr a darllen cymaint o weithiau roedd y tudalennau yn flêr ac yn dreuliedig.
Mae’r testun sy’n cael ei ddefnyddio yn y gemwaith yn cael ei argraffu ar bapur gweadog wedi’i ailgylchu, ddewiswyd y papur hwn yn fwriadol er mwyn rhoi teimlad oedran ac aeddfed pob darn.




