Gweithdy

A fyddech chi’n hoffi ysbrydoli cynhyrchiad dawns newydd?
A fyddech yn hoffi cael gwybod sut y mae gwaith dawns yn cael ei greu?
Wyddech chi bod gan eich corff ei gof ei hun?
Mae’n cofio’r hyn y mae eich meddwl yn ei anghofio. Cysur, ofn, llawenydd a chyffro – y cyfan wedi eu cadw yn eich cyhyrau a’ch esgyrn, yn barod i ddod i’r wyneb trwy eich synhwyrau. Dychmygwch y cryndod sy’n rhedeg i lawr eich asgwrn cefn pan fydd cloch yn canu, ac rydych yn cael eich taflu yn ôl i’ch diwrnod cyntaf yn yr ysgol. Neu gordiau cyntaf cân benodol, yn eich atgoffa o gariad yn cyniwair am y tro cyntaf.
Datgelir ein cyrff fel archif teimladau a phrofiadau yn y cynhyrchiad trochol a chwareus o ryngweithiol newydd hwn gennym ni/gan Jones y Ddawns, I Remember Myself. At Gorff fydd yn dod i Mostyn ar 09.05.2026
Trwy gydol yr wythnos yn arwain at bob perfformiad, byddem ni/byddai Jones y Ddawns yn hoffi eich cyfarfod mewn gweithdy hwyliog a chreadigol, lle byddwch yn cael datgelu rhai o’ch atgofion a phrofiadau y gallwch fod wedi eu hanghofio. Bydd y gweithdy’n cynnwys symud, trafod, ac arferion symud ystyrlon, y cyfan mewn lleoliad diogel. Gyda’ch caniatâd chi, bydd y storïau, meddyliau a syniadau a ddatgelir yn y gweithdy yn cael eu plethu gydag atgofion y dawnswyr, gan wneud y terfynau sy’n bodoli rhyngom yn llai amlwg wrth iddynt gael eu perfformio yn yr oriel ar ddiwedd yr wythnos.
Bydd y gweithdai’n cael eu harwain yn Gymraeg, Saesneg a BSL. Bydd dehongliad BSL ar gael drwyddi draw.
(Dim ond gyda’ch caniatâd chi y bydd unrhyw storïau sy’n cael eu rhannu yn y gweithdy yn cael eu hymgorffori yn y gwaith, ac ni fyddant yn cael eu tadogi i chi’n bersonol mewn unrhyw fodd beth bynnag.)



