Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Jennifer Collier

6 Ebrill 2026 - 20 Mehefin 2026

Arddangosfa Manwerthu

I gyd-fynd ag arddangosfa Paul Eastwood Dad-ddarlleniadau, comisiynwyd Jennifer i greu cyfres o jygiau, llwyau a chwpanau te wedi’u gwneud o’r llyfrau plant eiconig a grëwyd gan Mary Vaughan Jones ac a ddarluniwyd gan Rowena Wyn Jones. Roedd y llyfrau hyn yn rhan o gyfres ddarllen raddol gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion gyda’r nod o helpu plant i ddysgu Cymraeg.

Artist profiles and statements

Jennifer Collier

Mae Jennifer Collier yn creu amrywiaeth o gerfluniau ac eitemau o bapur hen wedi’i ailgylchu a phwyth; ei thro cyfoes ei hun ar decstilau traddodiadol. Mae’r papurau a ddarganfuwyd yn ysbrydoliaeth ac yn gyfrwng ar gyfer y gwaith, mae hen bapurau’n cael eu trawsnewid yn weithiau celf unigryw, a rhoddir bywyd newydd i ddeunyddiau a fyddai fel arall yn mynd heb eu defnyddio, heb eu caru neu’n cael eu taflu.

Cwblhaodd Jennifer BA (anrh) mewn Tecstilau (Argraffu, Gwau a Gwehyddu) ym 1999 ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac mae’n un o sylfaenwyr Unit Twelve yn Swydd Stafford.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr