Taith arddangos

Paul Eastwood, Unreadings, installation view at Mostyn, 2026. Photo: Rob Battersby.
Bydd Ein Byd Gweledol yn cyflwyno taith Iaith Arwyddion Prydain o’r arddangosfa Unreadings//Dad-ddarlleniadau ym Mostyn dan arweiniad tywysydd artistiaid Byddar sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol.
Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd ar ddangos, ei gyd-destun, a chipolwg ar ymarfer a chefndir yr Artistiaid. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain.
Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]



