Gweithdy plant

Ymunwch â’r artist Hannah Coates ar gyfer y gweithdy gwyliau haf rhad ac am ddim i deuluoedd a phlant, lle byddwch yn creu eich pryfyn lliwgar eich hun gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu.
Gan ddefnyddio natur fel ysbrydoliaeth, bydd cyfranogwyr yn torri, haenu ac addurno cardbord wedi’i ailgylchu gan ddefnyddio peniau lliwgar a phapurau lapio wedi’u hailddefnyddio, i greu eu pryfyn neu chwilen eu hunain.
Sesiwn hwyliog ac ymarferol sy’n annog dychymyg, ymwybyddiaeth amgylcheddol ac arbrofi artistig.
Addas ar gyfer pobl dros 6 oed ac oedolion.
Rhaid i bob plentyn gael ei oruchwylio a bod yng nghwmni oedolyn. Archebwch docyn ar gyfer pob aelod o’r grŵp sy’n mynychu, gan gynnwys rhieni neu warcheidwaid.
Os hoffech ofyn am gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]



