Gweithdy plant

Beth yw eich hobïau, eich angerdd neu eich diddordebau? Beth rydych chi’n ei ddathlu? Dros beth rydych chi’n ymgyrchu? Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?
Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy gwyliau haf rhad ac am ddim i deuluoedd a phlant, lle byddwch yn creu blychau atgofion efo collage sy’n dathlu rhywbeth pwysig yn eich bywyd.
Gallwch alw heibio unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yp.
Addas ar gyfer pobl dros 6 oed ac oedolion.
Rhaid i bob plentyn gael ei oruchwylio a bod yng nghwmni oedolyn. Archebwch docyn ar gyfer pob aelod o’r grŵp sy’n mynychu, gan gynnwys rhieni neu warcheidwaid.
Os hoffech ofyn am gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]



