Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Gweithgaredd Gwyliau’r Haf – Tyfwch ein cerflun!

21 Gorffennaf 2026 - 3 Medi 2026

Time: 10:30 - 16:30

Gweithdy plant

Mae’r ddau artist sy’n arddangos eu gwaith, Rafael Pérez Evans a DARCH, yn creu gweithiau celf gerfluniol tri dimensiwn. Dros yr haf dewch i gymryd rhan a helpu creu cerflun cymunedol!

Dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarperir a gwnewch eich blodau neu bryfed origami eich hun. Mae croeso i chi eu haddurno, eu cyflwyno i rywun, eu cysegru i achos rydych chi’n ei gefnogi, neu wneud un i chi’ch hun yn unig! Gallwch fynd â nhw gyda chi, ond ystyriwch hefyd wneud un i’w ychwanegu at ein gwaith celf sy’n tyfu!

Dewch yn ôl ar ddiwedd yr haf i weld sut mae’r cerflun wedi newid ac wedi tyfu!

Dewch draw ar unrhyw un o’r dyddiadau isod i gymryd rhan:

  • Gorffennaf: 21ain / 22ain / 25ain / 28ain / 29ain / 31ain
  • Awst: 1af / 4ydd / 5ed / 6ed / 8fed / 14eg / 15fed / 18fed / 19eg / 20fed / 22ain / 25ain / 27ain / 28ain / 29ain
  • Medi: 1af / 2il / 3ydd

Sylwch fod hon yn weithgaredd hunan-arweiniol sy’n agored i bawb; ni fydd staff na hwyluswyr ar y safle i gynorthwyo. Dylai oedolyn fod yng nghwmni pob plentyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected].



Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr