Siarad

DARCH, Heaven in the Ground, installation view at Mostyn, July 2026. Photo: Rob Battersby.
Ymunwch â ni ar gyfer y daith hon sy’n cynnwys disgrifiad sain o arddangosfa DARCH, ‘Heaven In The Ground’.
Caiff y daith ei harwain gan yr artistiaid Umulkhayr Mohamed a Radha Patel, gan archwilio cysyniadau sy’n ymwneud â’r byd ar ôl marwolaeth, y berthynas rhwng bywyd a marwolaeth, a’r angen i gydnabod llafur rhywogaethau eraill.
Mae’r daith wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd dall a rhai â nam ar eu golwg, ac mae croeso i gŵn tywys. Rydym yn argymell eich bod yn dod â thywysydd neu gydymaith sy’n gweld gyda chi. Bydd nifer cyfyngedig o aelodau staff ar gael i gynorthwyo ar y diwrnod.
Cynhelir y daith ar lawr gwaelod Mostyn. Os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected].
Sylwch: os hoffech ddod â thywysydd neu gydymaith sy’n gweld, archebwch docyn ar gyfer pob person sy’n mynychu.



