Siarad

DARCH, Heaven in the Ground, installation view at Mostyn, July 2026. Photo: Rob Battersby.
Ymunwch â ni ar gyfer y daith hon gyda’r curaduron o amgylch arddangosfa DARCH, “Heaven In The Ground”. Dan arweiniad yr artistiaid Umulkhayr Mohamed a Radha Patel, mae eu gwaith yn ceisio ffyrdd creadigol o fynegi arferion sy’n canolbwyntio ar ofal ar gyfer pobl o liw, gan fabwysiadu dull sydd wedi’i wreiddio mewn undod a rhyddhad.
Mae ‘Heaven in the Ground’ yn waith sain a gosodiad celf sy’n adrodd hanes y ddaear o dan ein traed, a’r graig sylfaen fel elfen gyswllt fawr sy’n dal yr holl hanesion (cynhanesyddol, trefedigaethol, personol) yn ogystal â dyfodol posibl. Mae’r gwaith yn archwilio cysyniadau o’r byd ar ôl marwolaeth, y berthynas rhwng bywyd a marwolaeth, a’r angen i gydnabod llafur rhywogaethau eraill.
Cynhelir y daith ar lawr gwaelod Mostyn. Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected].



