Gweithdy plant

Dewch i ymuno â ni yn Mostyn ar gyfer y sesiwn hon lle gallwch greu blychau cof wedi’u haddurno â cholage, sy’n dathlu rhywbeth pwysig yn eich bywyd.
Beth yw eich hobïau, eich angerdd neu eich diddordebau? Beth rydych chi’n ei ddathlu? Dros beth rydych chi’n ymgyrchu? Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus? Gallwch sianelu’r holl gwestiynau hyn i greu eich blwch unigryw a chreadigol!
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yp.
Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at blant 6 oed a hŷn. Rhaid i oedolyn oruchwylio a chyd-fynd â phob plentyn.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]



