Arddangosfa Manwerthu
Archwiliwch gasgliad o grefftau, dylunio a phrint cyfoes yn ystod tymor y Nadolig ym Mostyn.
Mae ein sioe manwerthu ‘Gwreiddiau yng Nghymru’ yn cyflwyno casgliad wedi’i guradu o artistiaid a gwneuthurwyr sydd i gyd yn rhannu cysylltiad â Chymru, boed hynny trwy enedigaeth, lleoliad neu astudiaeth. Gan weithio ar draws amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys gwneud printiau, gemwaith, tecstilau a cherameg, Siop Mostyn yw’r lle perffaith i ddechrau eich siopa ‘Dolig!
Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Claire Acworth, Ken Cornwell, Tara Dean, Dust Shack, Angela Evans, Ffŵligans, Glosters Pottery, Rebecca F Hardy, Sarah Hopkins, Emily Hughes, Koa Jewellery, Lima Lima Jewellery, Elin Manon, Charlotte Manser, Anne Morgan, Jenny Murray, Notch Handmade, Pam Peters Designs, Caroline Rees, Story & Star, The Tinsmiths, Mary Thomas, Ellen Thorpe and Karen Williams.
Rydym yn falch o gefnogi gwneuthurwyr annibynnol yn ein mannau manwerthu, a chaiff yr incwm a gynhyrchir ei fuddsoddi yn ôl yn ein rhaglen arddangos.
Mae Mostyn yn rhan o’r Cynllun Casglu, sy’n caniatáu ichi brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o ddeuddeg mis yn ddi-log, ac mae ar gael ar bob pryniant dros £50.
Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol. Gofynnwch yn y siop am ragor o fanylion.